Dau set o frodyr yn cydweithio - Ynyr ac Eurig Robers, a Hefin a Gareth Huws
Mae’r grŵp Brigyn wedi cyhoeddi eu bod yn cydweithio gyda’r cerddor amryddawn Hefin Huws, ac yn bwriadu gwneud set arbennig ar y cyd yn gig 50 ym mis Gorffennaf.
Cyhoeddwyd y newyddion ar faes Eisteddfod yr Urdd ddoe wrth i Brigyn wneud set acwstig arbennig ar uned Cymdeithas yr Iaith, sy’n trefnu’r ŵyl gerddorol.
Erbyn hyn mae Brigyn, sy’n brosiect y brodyr Ynyr ac Eurig Roberts, wedi hen sefydlu eu hunain fel un o grwpiau mwyaf creadigol y sin Gymraeg.
Mae statws Ynyr fel cyfansoddwr wedi codi ers i’w gân ’Rhywun yn Rhywle’ gipio teitl Cân i Gymru llynedd.
Mae Hefin Huws yn adnabyddus fel un o gyfansoddwyr mwyaf toreithiog y sin dros y tri degawd diwethaf fel artist unigol, ond hefyd fel aelod o’r grwpiau Maffia Mr Huws a Llwybr Cyhoeddus.
Ymysg ei glasuron mae ‘Twll Triongl’, ‘Chwysu dy hun yn oer’ a ‘Cariad dros Chwant’.
Arwr cerddorol
Mae Brigyn yn edrych ymlaen yn fawr at y cyfle i gydweithio â Hefin yn ôl y prif ganwr.
“Yn fy marn i, Hefin ydi un o’r perfformwyr a’r cyfansoddwyr gorau a mwyaf nodedig yn hanes cerddoriaeth roc a phop Cymraeg” meddai Ynyr Roberts.
“Da ni wedi bod yn canu’r gân ‘Cariad dros Chwant’ fel rhan o’n set ers i ni ffurfio Brigyn a dwi wedi bod yn ffan mawr o Hefin Huws ers o’n i’n blentyn. Mi fydd hi’n hwyl ac yn her cael perfformio efo un o’n arwyr cerddorol i!”
Perfformio cân amlwg am y tro cyntaf
Yn ôl y grŵp, bydd gŵyl Hanner Cant, a gynhelir ym Mhafiliwn Pontrhydfendigaid ar benwythnos 13-14 Gorffennaf, yn un o gigs mwyaf Brigyn hyd yn hyn.
Ac i nodi’r achlysur maent yn addo perfformio un o’u caneuon amlycaf yn fyw am y tro cyntaf.
“Mi fydd hi’n fraint hefyd cael Hefin i ganu ambell un o fy nghaneuon innau hefyd” meddai Ynyr.
“ Da ni hefyd am gymryd mantais o’r sefyllfa i berfformio un o ganeuon amlycaf Brigyn da ni rioed wedi ei pherfformio yn fyw o’r blaen. Cân sydd efo teitl eironig o gysidro y bartneriaeth fydd ar y llwyfan y prynhawn hwnnw ym Mhontrhydfendiagaid.”
Bydd Gareth Huws, sef brawd Hefin a drymiwr Llwybr Cyhoeddus yn chwarae drymiau i’r grŵp yn y gig, gan olygu bydd dau set o frodyr ar y llwyfan.