Clawr blaen sengl newydd Plant Duw
Mae’r grŵp Plant Duw wedi rhyddhau sengl Nadolig, a hynny chwe blynedd ar ôl cael y syniad gwreiddiol.
Mae Nadolig Llawen / Pwy sy’n Dŵad Dros y Bryn ar gael i’w phrynu ar CD ac yn electronig ac efallai y bydd rhai yn cael syndod o weld y grŵp pync-roc yn rhyddhau cynnyrch Nadoligaidd.
“Dyma Conor [Martin – y prif ganwr] yn sgwennu ‘Nadolig Llawen’ tua 5 mlynedd yn ôl, ei recordio ar four track a chael gweddill y band i ychwanegu ein rhannau ni fesul un,” meddai Rhys Martin o’r grŵp wrth Golwg360.
“Dwi’n cofio teimlo bach yn rhyfedd achos nôl yn nyddiau cynnar Plant Duw roedden ni’n fand oedd yn chwarae’r gitâr mor galed â phosib, ac eto dyma ni’n chwarae melodi really corni ar yr allweddau ac yn gneud solo ar y ffidil – nid yr offeryn mwya’ cŵl i chwarae os ti’n hogyn.”
“Wedi deud hynny, doedden ni ddim yn gallu troi ein cefnau ar ein gwreiddiau cerddorol, felly dwi’n credu mai dyma pam oedd rhaid i ni recordio ‘Pwy sy’n dŵad dros y bryn?’ hefyd.”
Sengl Nadolig 2011 gan Plant Duw
Nôl i wreiddiau Plant Duw
Mae ail drac y sengl yn sicr yn cyd-fynd ag arddull nifer o ganeuon cynnar y grŵp o Fangor, megis yr anthem pync ‘Talach na Iesu’.
Fe ryddhaodd Plant Duw eu hail albwm, Distewch, Llawenhewch, dros yr haf eleni ar ôl i’r prif ganwr, Conor Martin, ddychwelyd o flwyddyn yn Malawi.
Yn ôl Rhys Martin, mae’r sengl newydd yn newid cyfeiriad ar ôl eu dau albwm ‘difrifol’.
“Ar ôl recordio dau albwm efo themâu a theimladau eithaf difrifol iddynt, dyma ni’n dewis recordio rhywbeth a oedd yn dangos ein bod yn gallu bod yn hwyl a chwareus hefyd … fel y Plant Duw cynnar efallai.”
“Ac am ryw reswm, dwi ddim yn cweit dallt pam, mae caneuon Nadoligaidd yn gallu bod yn ofnadwy o corny a chawslyd … felly dyma oedd ein cyfle i recordio hen ganeuon a chael bach o hwyl.”
Nadolig yn bwysig
Plant Duw
Nid dim ond caneuon y sengl sy’n Nadoligaidd eu naws, mae’r CD wedi’i becynnu’n Nadoligaidd iawn – bron fel cerdyn Nadolig efallai?
“Conor a’i gariad wnaeth y gwaith celf ar gyfer y sengl – mae o fel ‘cerdyn ‘Dolig’ eitha’ neis chwara teg,” meddai Rhys.
“Yn ôl Conor dyma fo’n treulio noson gyfan yn gneud y Siôn Corn sydd ar y CD ei hun.”
Mae Rhys Martin yn credu fod y Nadolig yn gyfnod pwysig i’r band, ond ar lefel bersonol mae’n fwy nodweddiadol eleni gan fod ei frawd yn ôl o’i deithiau ar gyfandir arall.
“Mae Nadolig yn bwysig i ni fel band achos tra’r oedd pawb yn y Brifysgol doedden ni’m yn cael lot o amser i ymarfer, felly mi roedden ni wastad yn dod at ein gilydd o gwmpas y Nadolig ac yn sgwennu caneuon newydd.”
“Hefyd gan ein bod ni’n frodyr ac yn ffrindiau gorau rydan ni’n cael gweld ein gilydd, sydd yn grêt! Mae’r Martins yn enwedig yn edrych ymlaen at gael y teulu i gyd efo’i gilydd gan fod Conor i ffwrdd ym Malawi llynedd.
“Bydd noswyl Nadolig eleni’n arbennig achos ein bod ni’n mynd i gyngerdd ‘Plygain’ – rhywbeth dwi’n argymell i bob person Cymraeg wneud ar noswyl Nadolig os oes cyfle gan fod y naws yn hollol anhygoel.”
Mae Nadolig Llawen / Cerdyn Nadolig ar gael rŵan ar label Sbrigyn-Ymborth.
Gallwch ddarllen mwy am sengl Plant Duw, ynghyd â chaneuon Nadoligaidd newydd eraill a chyfweliad gyda’r Violas yn rhifyn wythnos yma o Golwg.