Mae Noson Pedwar a Chwech wedi cyhoeddi bod gig lansio albwm Bwncath wedi cael ei ohirio.

Roedd y gig i fod i gael ei gynnal yng Nghlwb Rygbi Caernarfon ar Fawrth 27, gyda’r band Tant yn cefnogi.

Cafodd albwm cyntaf y band, Bwncath ei ryddhau yn 2017.

“Yn anffodus, yn dilyn cyngor y llywodraeth, mae 4a6 wedi penderfynu gohirio gig Lansiad Albwm Bwncath a Tant am y tro,” meddai neges ar gyfrif facebook Noson Pedwar a Chwech.

“I bawb oedd wedi prynu tocyn, rydym yn gobeithio trefnu dyddiad arall yn fuan felly cadwch eich gafael arnyn nhw i’w defnyddio bryd hynny.”