Y gân 'Powys' sydd ar yr EP
Mae’r grŵp o Ddyffryn Conwy, Jen Jeniro, wedi rhyddhau eu EP newydd ‘Swimming Limbs’ heddiw.
Ar ffurf electronig yn unig mae modd prynu’r EP ar hyn o bryd, ond fe fydd modd prynu nifer cyfyngedig o gopïau finyl arbennig ddiwedd y mis.
Label annibynnol newydd I Ka Ching sy’n gyfrifol am ryddhau cynnyrch diweddaraf Jen Jeniro, a hwn yw record gyntaf y label sy’n cael ei redeg gan Gruff Ifan – drymiwr Texas Radio Band.
Cyfnod tawel
Y sengl hafaidd ‘Dolffin Pinc a Melyn’ oedd cynnyrch diwethaf Jen Jeniro yn ystod haf 2010.
Cafodd ei henwi’n ‘sengl yr haf’ yng nghylchgrawn Golwg, cyn ennill gwobr ‘Cân y Flwyddyn’ yng ngwobrau RAP C2 Radio Cymru, a ‘Sengl y Flwyddyn’ yng ngwobrau cylchgrawn Y Selar.
Er llwyddiant y sengl, mae’r grŵp wedi bod yn gymharol dawel ers diwedd yr haf llynedd.
“Am resymau amrywiol, mae wedi bod yn gyfnod gweddol hesb arnom ni’n ddiweddar” meddai gitarydd Jen Jeniro, Gwion Schiavone wrth Golwg360.
“Mae’r EP yn garreg filltir i ni gan fod tipyn ar y gweill o hyn ymlaen eleni.”
“Fe fydd y fersiwn finyl o’r EP yn cael ei ryddhau yng Ngŵyl Gardd Goll ar 23 Gorffennaf ac rydan ni hefyd yn mynd i stiwdio Maide Vale yn Llundain i recordio sesiwn i raglen Huw Stephens ar Radio 1.”
Cynnyrch blaenorol
Yn ogystal â’r sengl llynedd, mae Jen Jeniro wedi rhyddhau un EP, ‘Tellahasse’ yn 2006 ac yna’r albwm Geleniaeth yn 2008.
Fe fydd modd eu gweld yn perfformio’n fyw mewn nifer o wyliau eleni, gan gynnwys Gŵyl Gardd Goll, Gigs Maes B a Chymdeithas yr Iaith yn yr Eisteddfod a Gŵyl Gwydir ym mis Medi.
Mae modd lawr lwytho’r EP newydd o wefannau I KA CHING, itunes ac Amazon, a bydd nifer cyfyngedig o’r EP ar gael ar finyl 10 modfedd o’r 23ain o Orffennaf 2011 ymlaen.