Huw Stephens - un o'r beirniaid
Mae Clwb Ifor Bach yng Nghaerdydd wedi cael ei enwi’n ‘Ganolfan Fach Orau Cymru’ mewn pleidlais a gynhaliwyd gan gylchgrawn cerddoriaeth NME.
Roedd y bleidlais yn rhan o ymgyrch gan yr NME i dynnu sylw at bwysigrwydd canolfannau cerddoriaeth bach ym Mhrydain, a hynny’n ar ôl i gyfres o ganolfannau o’r fath gau eu drysau yn ddiweddar.
Ymysg y canolfannau bach poblogaidd sydd wedi cau, roedd yr NME yn rhestru TJ’s yng Nghasnewydd a The Point yng Nghaerdydd.
Curo pum canolfan amlwg arall
Roedd y cylchgrawn wedi gofyn i ddarllenwyr enwebu canolfannau addas oedd yn dal 500 o bobol neu lai a chafodd rhestrau byr rhanbarthol eu cyhoeddi ganol mis Mai.
Yn ogystal â Chlwb Ifor, roedd rhestr Cymru’n cynnwys The Garage yn Abertawe; Neuadd Gerddoriaeth y Mileniwm yng Nghaerdydd; Sin City yn Abertawe a Gorsaf Ganolog Wrecsam.
Clwb Ifor Bach, ar Stryd Womanby, a ddaeth i’r brig yng Nghymru, gan olygu eu bod yn yr het ar gyfer y wobr Brydeinig.
Bydd panel o arbenigwyr o’r diwydiant cerddorol, yn cynnwys y DJ Radio 1 a Radio Cymru Huw Stephens, yn asesu’r holl enillwyr rhanbarthol er mwyn dewis Canolfan Fach Orau Prydain.
Bydd y ganolfan fuddugol yn ennill gwerth £2,500 mewn offer sain fel gwobr.
Gwerthfawrogiad
“Dydyn ni heb wneud pwsh mawr i annog pobol i bleideisio drostom ni, felly mae’n galonolgol iawn bod pobol wedi mynd at i wneud hynny” meddai Rheolwr Adloniant Clwb Ifor Bach, Guto Brychan wrth Golwg360.
“Rydan ni wedi sefydlu ein hunain ar y syrcit gigs lefel yma ers rhai blynyddoedd bellach.”
“Mae hyn yn dangos bod pobol yn gwerthfawrogi’r hyn ydan ni’n gwneud ac eu bod nhw ishi gweld hynny’n parhau” ychwanegodd.
Yr holl enillwyr rhanbarthol:
De Ddwyrain: Tunbridge Wells Forum
De Orllewin: Bristol Thekla
Cymru: Clwb Ifor Bach, Caerdydd
Canolbarth Lloegr: Stoke Sugarmill
Llundain: Camden Barfly
East Anglia: Norwich Arts Centre
Gogledd Ddwyrain: Leeds Brudenell Social Club
Gogledd Orllewin: Manchester Band On The Wall
Yr Alban: Glasgow King Tut’s Wah Wah Hut
Golgedd Iwerddon: Belfast Limelight