Clawr casgliad diweddar Steve Eaves.
Mae Owain Schiavone wedi dewis ei hoff ganeuon oddi ar Ffoaduriaid, casgliad diweddar o waith y canwr a’r bardd Steve Eaves…
10. ‘Noson arall hefo’r drymiwr’ – trac o’r albwm Croendenau a chyfnod Dafydd Dafis ym mand Steve. Hon ydy’r enghraifft orau o’i gyfraniad o i sŵn y band – mae’r sax a’i lais cefndir yn wych. Cân ‘dawns olaf’ mewn disgo ysgol!
9. ‘Affrikaners y Gymru newydd’ – un o’r caneuon mwyaf egnïol ar y casgliad, ac un o’r anthemau mwyaf o’r cyfnod. Mae’r newid cywair hanner ffordd trwodd cyn y “Felly mae hi ar y ‘ffrynt lein’ yma…” yn glyfar iawn.
8. ‘Iesu Grist ar y trên o Gaer’ – trac agoriadol yr albwm olaf ar y casgliad, sef Iawn. Mae’n cael ei gyrru gan gonga Gwyn Maffia. Mae hon wedi cael ei chwarae tipyn ar y radio dros y ddegawd ddiwethaf ac yn ffefryn i lawer.
7. ‘Maddeuant mor felys’ – roedd hi’n ddewis anodd rhwng hon a ‘Cymylau mewn Coffi’ – am ryw reswm dw i’n rhoi’r ddwy yn yr un categori, er eu bod nhw’n dod o gyfnodau gwahanol iawn. Y gân olaf ar Iawn, a’r gân sy’n cloi’r casgliad arbennig yma. Cân am gariadon yn trio cymodi ar ôl ffrae, ond bod y ddau’n rhy ystyfnig i wneud hynny’n iawn. Er bod y thema’n awgrymu fel arall mae’n gân ysgafn a hapus iawn.
6. ‘Rhai Pobl’ – syml ond hynod, hynod effeithiol. Alaw ysgafn gitâr ac allweddellau yn gyfeiliant i sibrwd canu Steve. Mae’r hon yn enghraifft dda o Steve Eaves y bardd gyda’r gwpled gyntaf yn cydio’n syth – “Rhai pobl maen nhw mor groendenau maen nhw’n teimlo planedau’n troi”.
5. ‘Che Guevara’ – anthem arall o’i gyfnod mwyaf gweithgar gyda Chymdeithas yr Iaith. Cyfansoddwyd hon fel teyrnged a chefnogaeth i Alun Llwyd a Branwen Niclas a garcharwyd am weithredu dros y Gymdeithas ym 1991. Mae’r gân ar yr albwm amlgyfrannog O’r Gad, ac o drawiadau cyntaf y drymiau ar y dechrau, mae’n adlewyrchu cyffro gweithredu’r Gymdeithas yn y cyfnod hwn.
4. ‘Pendramwnwgl’ – ro’n i wedi anghofio am hon cyn i mi ei chlywed yn fyw wythnos ddiwethaf. Un fach arall araf hyfryd lle mae lleisiau Steve a Jackie Williams yn plethu’n berffaith ar y gytgan. A sôn am y gytgan – bydd hi’n sownd yn eich pen am oriau ar ôl ei chlywed.
3. ‘Traws Cambria’ – mae gen i a Hywel Gwynfryn rywbeth yn gyffredin yn ôl y sôn … sef ein hoffter o’r gân yma. Mae’n debyg bod Hywel Gwynfryn wedi datblygu rhyw fath o obsesiwn gyda hon yn ystod y 1980au a’i fod wedi ei chwarae drosodd a thro ar ei sioe Radio Cymru. Un o rinweddau amlycaf cerddoriaeth Steve Eaves ydy ei allu i ddod â deigryn i lygad y gwrandäwr, ac mae ‘Traws Cambria’ yn gwneud hynny.
2. ‘10,000 Folt Trydan’ – rhywbeth arall sy’n amlwg yn llawer o’r caneuon cyflymach ydy’r egni nerfus yma sy’n adeiladu’n raddol yn ystod trac, ac mae hon yn llawn o hynny. Mae caneuon fel ‘10,000 Folt Trydan’, ‘ Affrikaners…’ a ‘Che Guevara’ yn wych i’w gweld mewn perfformiadau gyda’r band. Croendenau ydy fy hoff albwm o’r casgliad yma, ac mae hon yn un o’r traciau gorau arni.
1. ‘Sanctaidd i mi’ – un arall sydd ar Croendenau. Hon ydy’r gân, yn fwy na’r un arall, sy’n crynhoi cerddoriaeth Steve Eaves i mi. Alaw gofiadwy, geiriau o farddoniaeth pur a mwy o emosiwn a theimlad na ellir ei gludo ar gefn lori Mansel Davies. Rhwng y ddau bennill gyntaf, fe geir darn athrylithgar o gyfansoddi wrth i’r riff bach gitâr gyflwyno’r drymiau er mwyn codi’r tempo. “Dw i wedi dod yn ddigon pell i wybod, does ‘na ddim byd yn para’n hir: tad a mab neu dau gariad law yn llaw, mae pawb angen cyffwrdd rhywun yn y pen draw”. Mae hon yn codi ias bob tro.
Ydych chi’n cytuno gyda dewis Prif Weithredwr Golwg360 sydd hefyd yn golygu’r cylchgrawn pop Y Selar? Gadewch i ni wybod…