Mae cerdd sy’n cael ei dysgu ar gof gan holl blant Hwngari pan maen nhw rhwng 13 a 14 oed sy’n adrodd hanes tranc 500 o feirdd Cymru dan orchymyn Edward I, wedi’i chyfieithu i’r Gymraeg am y tro cyntaf gan Twm Morys.
Mae’r Hwngariad László Irinyi, a’r Cymro John Asquith wedi cydweithio i ddod a’r cynllun i ffrwyth fydd yn cynnwys dangosiad cyntaf o’r faled.
Bydd A walesi bárdok gan János Arany, yn cael ei pherfformio, ynghyd â’r fersiwn gwreiddiol mewn Hwngareg a chyfieithiad i’r Saesneg, yn Amgueddfa Lloyd George, Llanystumdwy am 7.30 o’r gloch ar nos Wener, 26 Tachwedd.
Y perfformiad o Beirdd Cymru – A Walesi Bárdok fydd yn agor Gŵyl Gynganeddu Tŷ Newydd fydd yn cael ei chynnal y penwythnos hwnnw yn Llanystumdwy a Chricieth.
‘Lle’r faled yn hanes Hwngari’
“Bydd László Irinyi yn egluro sut y daeth y prosiect i fod ac yn siarad hefyd am bwysigrwydd a lle’r faled yn hanes Hwngari a sut y mae’n cydsynio â diwylliant a’r ymdeimlad o genedligrwydd yng Nghymru,” meddai Sally Baker, Cyfarwyddwr Canolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd.
Bydd hefyd gyfle i wrando ar ran o’r cantata, Beirdd Cymru, a gyfansoddwyd gan y Cymro, Karl Jenkins, yn arbennig ar gyfer y prosiect hwn.
Fe recordiwyd y perfformiad cyntaf o’r cantata yn y Saesneg gan Deledu Gwladwriaeth Hwngari ar 21 Mehefin eleni.