Mae trefnwyr Gŵyl Talacharn wedi gohirio’r digwyddiad tan yr hydref oherwydd coronavirus.

Roedd disgwyl iddi gael ei chynnal dros gyfnod o benwythnos ymhen pythefnos, ond mae hi wedi cael ei symud i benwythnos Hydref 2-4.

Yn ôl y trefnwyr, fe fydd y rhan fwyaf o’r perfformwyr ar gael yn yr hydref, ynghyd â rhai oedd wedi methu ymrwymo i’r dyddiad gwreiddiol.

‘Sori’

“Sori bawb,” meddai’r trefnwyr mewn datganiad ar Facebook.

“Ar ôl yr wythnos ddiwethaf, doedd dim synnwyr amlwg mewn ceisio cynnal gŵyl mewn tre’ fach ymhen pythefnos.

“Mae hi’n anochel y byddai rhai perfformwyr yn methu mynychu.

“Mae’n sicr y byddai nifer o ddeiliaid tocynnau’n anesmwyth iawn ynghylch mynychu.

“Ac yn bwysicaf oll – mae pryder go iawn o fewn y dref am effaith yr ŵyl pe bai’n mynd yn ei blaen.”

Gohirio

Wrth gyhoeddi dyddiad newydd yr ŵyl, dywed y trefnwyr y bydd yr holl docynnau’n ddilys bryd hynny.

“Dw i’n sylweddoli y bydd yn boen sylweddol i bawb ohonoch chi sydd wedi bwcio llety.

“Does gyda ni ddim rheolaeth dros hynny, ond gobeithio’n fawr y byddai darparwyr yn barod i dderbyn newid dyddiad i fis Hydref.

“Fe wnawn ni helpu os gallwn ni.

“Ymddiheuriadau unwaith eto.

“Mae’r rhain yn amserau anghyffredin ac mae angen i ni ganolbwyntio ar y darlun ehangach.”

Dywed y trefnwyr y bydd enwau’r holl berfformwyr fydd yn ymddangos ym mis Hydref yn cael eu cyhoeddi maes o law.

Ymhlith y rhai sydd wedi’u cyhoeddi mae Carys Eleri, Meic Stevens, Bandicoot, Chris Bryant, Kim Hon.