Mae cofiant y bardd o Ryd-ddu, T H Parry-Williams, yn un o dri llyfr sydd wedi derbyn gwobr arbennig gan Brifysgol Cymru.

Mae Pris Cydwybod: T H Parry Williams a Chysgod y Rhyfel Mawr (Y Lolfa) gan Dr Bleddyn Owen Huws wedi derbyn Gwobr Goffa Syr Ellis-Griffith, sy’n cael ei dyfarnu’n flynyddol i’r gwaith gorau yn y Gymraeg am lenorion, arlunwyr neu grefftwyr Cymraeg.

Mae’r gyfrol yn olrhain profiadau T H Parry Williams fel gwrthwynebydd cydwybodol yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, a sut y dylanwadodd hynny ar ei fywyd personol a’i yrfa yn y blynyddoedd dilynol.

Mae hefyd yn datgelu – am y tro cyntaf erioed mewn print – hanes y garwriaeth rhwng y bardd â meddyg teulu o ardal Trawsfynydd.

Gwobrau eraill

Llyfr Cymraeg arall sydd wedi derbyn cydnabyddiaeth yw Yr Ail Lyfr Du o’r Waun: Golygiad Beirniadol ac Eglurhad o Lawysgrif Peniarth 164 (H) (Gwasg Caergrawnt) gan Dr Angharad Elias.

Mae’r astudiaeth ar un o destunau Cyfraith Hywel Dda wedi derbyn Gwobr Hywel Dda. Daw’r wobr o incwm cronfa a godwyd drwy danysgrifiadau cyhoeddus i goffáu dathlu milflwyddiant Hywel Dda yn 1928.

Yn derbyn Gwobr Goffa Vernam Hull mae’r Athro Hanes o Brifysgol Washington, Robin Chapman Stacey, a hynny am ei llyfr, Law and the Imagination in Medieval Wales (Gwasg Prifysgol Pennsylvania).