Bydd cyfrol sy’n cynnwys cerddi plant gan y bardd, Waldo Williams, yn cael ei chyhoeddi ar ei newydd wedd yr wythnos nesaf, a hynny ar drothwy diwrnod i’w gofio.

Fe ddethlir ‘Diwrnod Waldo’ yn flynyddol ar ddyddiad ei ben-blwydd – Medi 30.

Ac i gyd-fynd â’r dathliadau eleni, mae Gwasg Gomer yn bwriadu bwrw argraffiad newydd o Cerddi’r Plant i’r byd.

Cafodd y gyfrol ei chyhoeddi yn wreiddiol gan Wasg Aberystwyth yn 1936, ac mae’n cynnwys darnau gan Waldo Williams ei hun a’i gyfaill, E Llwyd Williams.

Ymhlith yr ugain cerdd o eiddo’r bardd enwog o Sir Benfro mae ‘Morgrugyn’, ‘Clatsh y Cŵn’ a ‘Dynion sy’n Galw’. Mae’n debyg yr arferai Waldo honni iddo lunio’r cerddi mewn dim ond deg diwrnod.

Bydd yr argraffiad newydd hefyd yn cynnwys y cywydd enwog i blant, ‘Byd yr Aderyn Bach’ – a gyhoeddwyd yn wreiddiol yn Dail Pren (1956) – yn ogystal â rhagymadrodd gan Mererid Hopwood a bywgraffiadau gan Eirwyn George o’r ddau awdur a dylunydd y gyfrol wreiddiol.

Bydd Cerddi’r Plant yn cael ei lansio ar ei newydd wedd yn Nhyddewi ar Fedi 27.