Mae trefnwyr eisteddfod newydd Caerdydd yn bwriadu cyhoeddi ei rhestr o destunau llenyddol yr wythnos nesaf yn yr Eisteddfod Genedlaethol, ychydig dros chwe mis cyn i’r ŵyl gael ei chynnal am y tro cyntaf erioed.
Bydd y rhestr yn cael ei chyhoeddi mewn digwyddiad arbennig ddydd Iau (Awst 8) yr Eisteddfod Genedlaethol yn Sir Conwy, a hynny yn stondin Cymdeithas Eisteddfodau Cymru.
Bydd yr eisteddfod ei hun yn cael ei chynnal yn Ysgol Plasmawr yn y flwyddyn newydd ar Ionawr 17.
Ymhlith y beirniaid sydd wedi eu cadarnhau, hyd yn hyn, mae Emyr Davies (Llên), Steffan Rhys Hughes ac Osian Rowlands (Cerddoriaeth), Rhys Taylor (Offerynnol), Garry Owen (Llefaru), ynghyd â Sarah a Keith Hopkin (Dawnsio Gwerin).
Mae’r trefnwyr hefyd wedi dewis y cyflwynydd a’r DJ, Huw Stephens, i fod yn llywydd cyntaf yr eisteddfod.
“Rydym wrth ein boddau fod Huw Stephens wedi cytuno i fod yn Llywydd, gan ei fod yn ddyn mor boblogaidd ac uchel ei barch,” meddai’r Pwyllgor Gwaith mewn datganiad.
“Mae’n ddyn lleol, sy’n adnabyddus y tu hwnt i Gaerdydd, ond sydd wedi cadw ei gysylltiadau clos â’r ddinas.”