Manon Rhys
Mae llai na deufis cyn dyddiad cau cyntaf Eisteddfod Genedlaethol Bro Morgannwg.  Er mai ychydig wythnosau sydd wedi pasio ers diwedd Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam a’r Fro, mae golygon cystadleuwyr Cymru eisoes wedi troi i’r Fro ac i Brifwyl y flwyddyn nesaf.

I’r rhai sy’n awyddus i gystadlu am y Fedal Ryddiaith neu Wobr Goffa Daniel Owen yn 2012, rhaid i bopeth gyrraedd Swyddfa’r Trefnydd erbyn 1 Rhagfyr eleni.  Ceir manylion ar sut i gystadlu yn y Rhestr Testunau, sydd ar werth mewn siopau ar draws Cymru ac ar wefan yr Eisteddfod – www.eisteddfod.org.uk

Yn 2012, rhoddir y Fedal Ryddiaith am gyfrol o ryddiaith greadigol heb fod dros 40,000 o eiriau, sy’n delio â phwnc  ‘Mudo’.  Rhoddir y Fedal a’r wobr ariannol o £750 gan Janet a Glenda a’r teulu i gofio am Bill a Megan James.  Beirniaid y gystadleuaeth eleni yw Gwerfyl Pierce Jones, Aled Islwyn a Fflur Dafydd.

Nofel heb ei chyhoeddi gyda llinyn storїol cryf a heb fod yn llai na 50,000 o eiriau sydd ei hangen ar gyfer Gwobr Goffa Daniel Owen.  John Rowlands, Gareth F Williams a Sioned Williams yw’r beirniaid yn 2012.

Meddai Hywel Wyn Edwards, Trefnydd yr Eisteddfod, “Rydym yn awyddus i annog cynifer o lenorion â phosibl i gyflwyno’u gwaith yn y ddwy gystadleuaeth hon y tro hwn.  Dim ond deufis sydd ar ôl ar gyfer unrhyw un sy’n dymuno efelychu llwyddiant Daniel Davies a Manon Rhys yn Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam a’r Fro eleni, felly cofiwch sicrhau bod pob darn o waith yn ein cyrraedd erbyn y dyddiad cau.

“A chofiwch, os nad ydych chi’n llwyddo i orffen eich gwaith erbyn 1 Rhagfyr, mae’r testunau ar gyfer y Fedal Ryddiaith a Gwobr Goffa Daniel Owen yn 2013 eisoes wedi’u cyhoeddi, er mwyn rhoi digon o amser i lenorion fynd ati i baratoi i gystadlu yn ardal Sir Ddinbych hefyd.”

31 Ionawr yw’r dyddiad pwysig nesaf ar gyfer unrhyw un sydd am gystadlu y flwyddyn nesaf.  Dyma’r dyddiad cau ar gyfer y cystadlaethau cyfansoddi drama ac enwebiadau ar gyfer Medal Goffa Syr T H Parry-Williams er Clod a’r Fedal Wyddoniaeth a Thechnoleg er Anrhydedd.

Cynhelir Eisteddfod Genedlaethol Bro Morgannwg ar dir maes awyr Llandw o 4-11 Awst y flwyddyn nesaf.  Am ragor o wybodaeth ewch i’r wefan – www.eisteddfod.org.uk