Mae gweinidog gyda’r Undodiaid yng Ngheredigion yn dweud bod cael cyfle i rannu rhai o’i brofiadau bywyd gydag eraill yn bwysig iddo.
Mae Cen Llwyd yn gyfrannwr cyson i’r slot ‘Munud i Feddwl’ ar Radio Cymru ers cyfnod o chwarter canrif, a nawr mae wedi casglu rhai o’i fyfyrdodau ynghyd.
Mae wedi’u dethol yn ôl misoedd y flwyddyn, ac yn ôl y pregethwr o ardal y Smotyn Du, yr amcan wrth eu llunio oedd ceisio “uniaethu” â phobol yn eu bywyd beunyddiol a dangos iddyn nhw sut y gall rhai digwyddiadau bach, lleol fod â “gwerth ehangach”.
“Dw i wedi byw nawr ers 67 o flynyddoedd,” meddai Cen Llwyd wrth golwg360. “Mae rhyw bethau wedi digwydd i fywyd dyn yn ystod y blynyddoedd hynny.
“Mae yna brofiadau dwys wedi bod, fel colli plentyn a chyfnodau o fynd i’r carchar. Mae’r rheiny i gyd wedi creu cymeriad neu greu rhywbeth ynddo fi a dw i’n credu ei bod hi’n bwysig cael cyfle i rannu rhai o’r profiadau hynny.”
“Cynulleidfa ehangach”
Rhan o apêl y slot boreol ar raglen y Post Cyntaf, yn ôl Cen Llwyd, yw cyrraedd cynulleidfa nad oes modd ei gweld na’i chlywed.
“Mae’n eithaf exciting i ddweud y gwir, achos dwyt ti ddim yn gwybod pwy sy’n gwrando,” meddai.
“Pan wyt ti’n areithio mewn cyfarfod, pregethu mewn cwrdd neu’n siarad mewn rhyw rali, rwyt ti’n gweld y gynulleidfa o’th flaen di.
“Ond gyda rhywbeth fel Munud i Feddwl, efallai fod rhywun wrthi yn glanhau eu dannedd neu’n paratoi brecwast – dwyt ti ddim yn gwybod pwy sy’n gwrando.”
Dyma glip o Cen Llwyd yn darllen y darn ‘Ochr Anghywir’, a gafodd ei ddarlledu’n wreiddiol ar Ionawr 7, 2002…