Mae awdur o Lŷn yn dweud ei fod “wedi laru” ar gyhuddiadau gan ddarllenwyr ei fod yn gosod ei holl nofelau yng ngogledd-orllewin Cymru.
Dyna pam bod nofel ddiweddaraf Alun Jones o Sarn Mellteyrn, sef Taith yr Aderyn, yn cael ei disgrifio yn “nofel epig sy’n llawn antur mewn byd estron”.
Ac wrth gyfeirio at y “byd estron” hwnnw, mae’n dweud ei fod wedi dychwelyd at fyd ei nofel ddiwethaf, sef Lliwiau’r Eira, a gyhoeddwyd yn 2012.
Dim sôn ar y map
“Does dim modd ei ddarganfod ar y map,” meddai Alun Jones am fyd y nofel. “Mae hynny yr un mor wir am bob un nofel dw i wedi’i sgwennu.
“Dw i wedi cael fy nghyhuddo ers blynyddoedd bod fy nofelau wedi’u lleoli ym Mhen Llŷn. Ond dw i erioed wedi gwneud hynny. Mae pob un lleoliad sydd gen i ym mhob un nofel yn lle dychmygol.
“Ond mae hwn yn fyd gwahanol. Dyna un rheswm y tu ôl i sgwennu Lliwiau’r Eira, oherwydd fy mod i wedi laru ar gael fy nghyhuddo o leoli pob nofel ym Mhen Llŷn.”
Eto i gyd, mae’n cyfaddef mai’r dehongliad “cywiraf bosib” o fyd y nofel newydd yw “rhywle yng nghanol ardaloedd Llychlyn – ddim yn rhy bell o’r Arctig.”
“Teithio a chwilio”
Mae Taith yr Aderyn yn dilyn hanes Gaut a’i gyfeillion, wrth iddyn nhw herio awdurdod a glynu at eu hetifeddiaeth.
Mae Alun Jones hefyd yn dweud bod yna dipyn o “deithio a chwilio” ynddi, gyda’r naratif yn cynnwys “rhyw ddwy neu dair” o deithiau sy’n annibynnol ar ei gilydd.
Mi fydd y nofel ar gael yn y siopau yn fuan, ac mae’n cael ei chyhoeddi gan Wasg Gomer.