Mae’n “hollol annerbyniol” fod Cyngor Conwy yn bygwth cau saith o lyfrgelloedd “poblogaidd”, yn ôl Aelod Cynulliad lleol.
Ar ôl cynnal adolygiad pum mlynedd o’r gwasanaeth, mae Cabinet y cyngor sir yn ystyried cau llyfrgelloedd Cerrigydrudion, Deganwy, Bae Cinmel, Cyffordd Llandudno, Llanfairfechan, Penmaenmawr a Bae Penrhyn.
Fe fyddai pedair llyfrgell ar ôl yn y sir – Llandudno, Bae Colwyn, Llanrwst ac Abergele – ac un “llyfrgell strategol” newydd yn cael ei hadeiladu o’r newydd.
“Dw i’n meddwl bod Conwy wedi gwneud camgymeriad yn eu hargymellion ar gyfer llyfrgelloedd yn yr ardal,” meddai Darren Millar, AC Ceidwadol Gorllewin Clwyd.
“Maen nhw’n cau llyfrgelloedd y mae nifer cynyddol o lyfrau yn cael eu benthyca oddi wrthynt. Mae llyfrgelloedd yn dod yn fwy poblogaidd yn yr ardal. Mae Conwy wedi gwneud yn dda iawn yn troi’r trai o ran benthyciadau llyfrau dros y blynyddoedd, ond nawr yn wynebu cau.”
“Beth ddylen nhw fod yn ei wneud yw gweithio gyda chymunedau lleol i ffeindio ateb arall yn lle cau. Ym Mae Cinmel, mae’r adeilad y drws nesaf i’r ganolfan gymunedol. Felly os bydd y llyfrgell yn cau, bydd y ganolfan mewn perygl. Dylai’r awdurdod fod wedi holi Cyngor Tref Tywyn a Bae Cinmel i ddweud: ‘Rydan ni’n ystyried dyfodol llyfrgelloedd – tybed a hoffech chi rannu adnoddau neu helpu i ateb y gost o ddarparu llyfrgell?’ Dw i’n siwr byddai’r canlyniad wedi bod yn dra gwahanol.”
Darllenwch weddill y stori yng nghylchgrawn Golwg, 27 Ionawr