Alan Llwyd
Roedd hi’n “ollyngdod” i’r bardd Alan Llwyd roi’r gorau i olygu cylchgrawn a llyfrau Barddas, meddai wrth gylchgrawn Golwg.
Yn yr unig gyfweliad ers iddo gyhoeddi’n sydyn ei fod yn gadael y swydd, mae’n dweud bod y gwaith “wedi bod yn ormod o lawer”.
Roedd yn methu â rhoi sylw teg i’w waith ei hun, meddai, ar ôl bod wrth yr awenau yn y Gymdeithas Gerdd Dafod – cyhoeddwyr y cylchgrawn a’r llyfrau – ers 35 o flynyddoedd.
Mae hefyd yn dweud yn blaen nad oedd yn fodlon ar gyfeiriad rhaglen gyhoeddi’r Gymdeithas a gafodd ei sefydlu yn niwedd yr 1970au.
Roedd y prifardd dwbl wedi bod i ffwrdd o’i waith ar ysgoloriaeth i sgrifennu llyfrau pan gyhoeddodd yn ddirybudd yr wythnos ddiwetha’ na fyddai’n dod yn ôl.
Rhagor o sylwadau Alan Llwyd yng nghylchgrawn Golwg yr wythnos yma.