Darlun Ivor Davies o William Williams yn hongian yn y Senedd ddydd Mercher yr wythnos hon, fel rhan o ddigwyddiad gan y Llyfrgell Genedlaethol (Llun: golwg360)
Mae golwg360 yn deall bod elusen wrthi’n paratoi cynnig i’w gyflwyno i Lywodraeth Cymru ar gyfer codi cerflun o ddau o emynwyr enwocaf Cymru.
Mae’r Aelod Cynulliad Ceidwadol, Darren Millar, yn ymddiriedolwr yr elusen Gristnogol ‘Sefydliad Evan Roberts’, a dywed fod yr elusen yn gobeithio cyflwyno ei chynnig i gofio Ann Griffiths a William Williams yn y dyfodol agos.
“Yr wythnos ddiwethaf, roedd awgrym y gallwn ni gael cerflun o William Williams ac Ann Griffiths, dw i’n meddwl y byddai rhywbeth fel hynny yn deyrnged dda i’r ddau ohonyn nhw,” meddai wrth golwg360.
“Gallwn ni ddatblygu cornel beirdd fan hyn ym Mae Caerdydd, mae gennym ni Ivor Novello yno’n barod, dw i’n meddwl y byddai’n grêt gweld William Williams ac Ann Griffiths ochr yn ochr ag e.
“Mae yna elusen, Sefydliad Evan Roberts, yn gobeithio datblygu cynnig a gobeithio y byddan nhw’n cyflwyno cynnig i Lywodraeth Cymru yn y dyfodol agos.”
Diffyg cofio – “esgus”
Roedd yn siarad yn nigwyddiad yn y Senedd dydd Mercher i gofio 300 mlwyddiant ers geni William Williams Pantycelyn, lle cafodd gwaith celf yr artist Ivor Davies ohono ei ddatgelu.
Cafodd y digwyddiad dros ginio ei drefnu gan Lyfrgell Genedlaethol, lle’r roedd y Prif Weinidog Carwyn Jones, ymhlith eraill, yn siarad.
Ond dyma’r unig ddigwyddiad i gofio’r bardd enwog hyd yma ac yn ôl yr Ysgrifennydd dros Ddiwylliant, Ken Skates, y rheswm dros hynny yw bod neb wedi mynd at y Llywodraeth i gynnig syniadau.
Dywed Darren Millar mai “esgus” yw hynny.
“Roedd William Williams yn ffigwr enfawr yn hanes anghydffurfiol Cymru… mae ei ganeuon, ei farddoniaeth, ei emynau hyd yn oed yn effeithio ar ein bywydau bob dydd heddiw,” meddai.
“Dw i’n meddwl ei fod e ychydig yn siomedig fod Llywodraeth Cymru heb gynllunio’n effeithiol i gofio un o gewri llenyddiaeth Cymraeg a chydnabod ein hetifeddiaeth Gristnogol.
“Mae Llywodraeth Cymru yn bro-actif iawn gyda phethau eraill y maen nhw eisiau cofio a dw i’n meddwl ei fod e’n siomedig fod nhw heb gael pobol o gwmpas y bwrdd i gynllunio’n fwy effeithiol i gofio bywyd William Williams felly dw i’n meddwl bod hynny’n esgus i ddweud y gwir.”