Comisiynwyd Ifor ap Glyn gan Ganolfan Mileniwm Cymru i greu gwaith i’w berfformio gan Sian Phillips yn y noson i gofio trychineb Aberfan ar Hydref 8, 2016.
“Pump oed o’n i pan ddigwyddodd hyn a ‘nghof penna yw gweld mam yn crio o flaen y teledu a minnau’n gofyn iddi be oedd yn bod,” meddai Ifor ap Glyn. “Ond hyd yn oed hanner canrif yn ddiweddarach, mae hi’n dal yn anodd trafod Aberfan.
“Mae cymaint o gwestiynau’n dal i godi: ‘Sut ddylen ni gofio’r drychineb?’ ac ‘Ydyn ni’n ymyrryd yng ngalar y teuluoedd a’r rhai wnaeth oroesi, wrth wneud hynny?’
“Mae’r gwaith yn drwm dan ddylanwad atgofion y rhai a oedd yno,” meddai Ifor ap Glyn wedyn. “Rwy’n ddyledus dros ben i awdur ‘Aberfan’, Gaynor Madgwich, sydd wedi rhannu ei hatgofion poenus ei hun ac atgofion pobol eraill oedd yno, gyda pharch a sensitifrwydd. Rwy’n gobeithio y bydd y monolog hwn yn cael ei dderbyn yn yr un modd.
“Rhaid diolch hefyd i E Wyn a Christine James am ysbrydoliaeth eu cyfrol nhwthau o gerddi. Diolch i Wyn Williams am ei gyngor ynglŷn â’r Wenhwyseg a diolch yn olaf i Ganolfan Mileniwm Cymru am eu caniatâd i ailgyhoeddi’r gwaith gwreiddiol.”
Llythyr Mamgu
(Gwelir dynes yn ei hwythdegau cynnar yn ceisio cyfansoddi llythyr hefo pad a beiro yn ei llaw)
“My dearest grand-daughter…”
Na… “Annwyl wyres…”
Ti weti gofyn ifi drial ysgrifennu beth wi’n i gofio – ar gyfar ryw broject sda ti ‘sha’r ysgol, felly ma gofyn i Mamgu neud a’n Gwmrêg siwr o fod…
ond cariad bêch, smo i’n gwpod beth alla’i weud tho ti…
Silence is a hard habit to break ys gwetan nhw a reit o’r dwarnod cintaf un, rodd ‘yn yn rwpath nag on ni’n wilia ybythdi… non-subject fel man nhw’n gweud nawr
Ma’n beth dicon rhyfadd pan ti’n meddwl amdani ‘ddi. Jiawl, tra bod y byd a’i bartnar yn ein trafod ni, a’u heditorials, a’u news items ac yn y blên, tra bod y beirdd yn sgrifennu’u cerddi amdenon ni, a’r holl eiria ‘na’n golchi droson ni… ôn ni’n gweud dim…
Y peth yw, pwy opath odd i ffindo geiria alla weud beth on ni ’di weld? Pitwch â sôn.
On ni’n …numb, on ni jest yn bodoli… fel ’san ni miwn gwactar – ac rodd y geiria’n llifo miwn yn ddi-ddiwadd o’r tu fês, yn trial llanw’r gwactar ’na… Rodd a fel… tipslide o gydymdimlad… dodd dim drwg yndyn nhw, wrth gwrs ’ny, ond on ni jest yn trial catw fynd…
Felly… beth alla’i weud tho ti ‘bêch?
Ys gwetws y dyn, silence is a hard habit to break…
Rodd hi’n niwl mawr y dwarnod ’ny…ac rodd hi’n ôr… ac rodd dy dad a dy anti fêch weti gwishgo’u dillad ysgol wrth y tên. Rhoddas i bobo swllt arian cino iddyn nhw
(-neu ‘five pee’ fel byddach chi’n weud) – a dodd dy anti fêch ddim moyn mynd, ond na fe, I wasn’t having it;
“Dim ond ‘eddi ‘to”, mynta fi, “- a fydd dim ysgol am wsnoth wetyn”
Rôdd dy anti fêch run oetran â titha nawr…
Rôdd y swllt yn ei llaw ’i o ‘yd, pan dynnw’d ‘i mês o’r llacs…
Rôdd hi’n lico canu… a wara cwato…
Bydda’i’n meddwl yn aml shwt fydde hi weti troi mês…
shwt fydde’r holl blant ’na weti troi mês…
Rodd yn anodd i dy dad di weti ’ny. Rôdd a’n pallu wara yn y stryd rhag bod rhieni erill yn i weld a ac yn ypseto’u hunen. Pan etho fa i’r ysgol newydd wrth y rheilffordd, rhetws a gytra’r dwarnod cynta pan glywws a fwstwr y trena glo ar y lein – odd a’n meddwl fod y tip yn dod lawr ‘to.
Ceson ni ‘gyd yn profi mewn ffyrdd gwa’nol. Am fishodd wet’ny, bydda Dadcu yn doti’i fys yn y ngheg i,pan on i’n cysgu. – fel sa fa’n glan’au’r llaca ohono fa. ‘Na beth odd a weti bod yn neud lawr yn yr ysgol gyta’r plant pan on nhw’n dod â nhw mês.
‘Odd a ddim yn gwpod fod a’n neud a – odd a’n cysgu. Mewn breuddwyd…
Mewn ffordd, on ni gyd fel sen ni’n byw mewn breuddwyd. Bydda Dadcu’n mynd lawr i’r Mac yn ymlach nag y bydde fa gynt.
‘I’ve only ‘ad four,’ bydde fa’n gweud, ‘…’elps me see clearer…’ Ond moyn gweld y niwl odd a, windo’r cyfan nôl i’r bora niwlog ’na, a gwneud i’r cyfan …ddad- ddicwydd. Os shwt gair i gêl? Byddi di’n gwpod yn well na Mamgu, wi’n siwr…
Felly… faint dylat ti gêl gwpod? Mae’n ran o dy anas di … ran o anas yn teulu ni. Ond alla’i byth â rannu’r euocrwdd sy gyta fi am bo fi weti fforso ‘r ferch a gollas i i fynd i’r ysgol y bora ’ny. A se’n dda ’da fi sen ni byth ’di rannu wnna ‘da dy Dadcu di ‘ed… a’r ffaith bo fi’n timlo’n euog am bo gyta fi blentyn odd weti byw. Ond fyddat ti ddim gyta fi wet’ny!
Smo hyn yn gneud llawar o sens…
Gad i fi ddangos llunia i ti o’r amser weti ’ny…
Dêth bachan o America gyta’i gamera ar ôl y drychinab a buws gyta ni am gwpwl o fishodd wetyn. Rapoport odd i enw a. Shgwla di ar i lunia fa.
Co’r babi cynta gas i eni wetyn… a’r briotas gynta… y bobl gynta’n gwenu. (a faint racor o reini sy weti bod ar ôl ‘ny, diolch i’r nefodd?)
Mae’r llunia ’na’n dangos fel on ni’n cario mlên… am fod raid i ni… ond ma ’na rai pethach nag yw’r llunia na’n dangos…
Fel … can’wylla yn dy bocedi.
Rodd dy anti fêch ofan y t’wllwch, twel… a byddan i’n cynny cannw’ll iddi yn y fynwant. Odd llawar yn gneud. Rodd y lle fel ail gytra i ni, am amsar mawr weti ‘ny… byddan inna’n mynd â c’nwlla sbêr gyta fi ym mocad y nghot -rhag ofan fod cannw’ll plentyn arall weti llosgi’n ddim.
Pethach fel ‘yn bydda’i’n gorffo cario gyta fi tra bydda’i – ond ôs ‘awl ‘da titha arnyn nhw ‘ed? Am fod y peth mor ofnatw, a ddylat titha dimlo (fel sawl un o dy flên di) fod dyletsw’dd arnot ti i weud rwpath, i gydymdimlo, i drial uniaethu?
Achos alli di ddim, cariad bêch
– ond smo’i isie iti anghofio chwaith.
AlIa’i ddim ond roi blota i dy anti fêch…
ond fe dria’i rannu…beth alla’i …’da titha…
Gwrandewch ar Ifor ap Glyn yn perfformio ‘Llythyr Mamgu’ yn y clip sain hwn: