Dim ond 250 o gantorion fydd yn cael bod yn rhan o Gôr yr Eisteddfod Genedlaethol yn Sir Fôn flwyddyn nesa’ – er bod cyfanswm aelodau holl gorau’r Ynys bron â bod yn ddwbwl hynny.
“Rhesymau iechyd a diogelwch” a maint llwyfan y pafiliwn newydd sydd i gyfri’ am orfod pennu nifer mor benodol, meddai’r Eisteddfod Genedlaethol wrth golwg360, wrth iddi estyn gwahoddiad i gantorion i gofrestru ar-lein er mwyn canu yn y côr.
Ond ymhlith corau’r ardal y mae Aelwyd yr Ynys, Côr Meibion y Traeth, Hogia’r Ddwylan, Hogia Llanbobman, Côr Bara Brith, Côr Bro Dyfnan, Cantorion Bro Cefni ac Adlais, heb ystyried pobol leol a allai fod â diddordeb mewn bod yn rhan o’r cor er mwyn cael hwyl a chymdeithasu.
“Nid ymgais i ddifrifoli’r côr mo cyfyngu’r niferoedd,” meddai llefarydd ar ran yr Eisteddfod, “ac mae angen cofrestru ar-lein fel ein bod ni’n cael cyfle i weld pwy sydd efo diddordeb.
“Mae’r opsiwn i gofrestru ar-lein wedi’i ychwanegu wrth i ni ddatblygu’r gwasanaethau sydd ar gael ar ein gwefan er mwyn i bobol gysylltu gyda ni pan mae hi’n gyfleus iddyn nhw.”
‘Dewch i Ganu’
Ar hyn o bryd, dydi’r Eisteddfod Genedlaethol ddim yn fodlon dweud pwy fydd yn arwain Côr yr Eisteddfod y flwyddyn nesa’, er mai’r gair ‘arweinyddion’ sy’n cael ei ddefnyddio bob gafael.
Fe fydd enw, neu enwau, yr unigolion hynny’n dod yn hysbys yn y sesiwn agoriadol, ‘Dewch i Ganu’, sydd i’w chynnal yn Ysgol David Hughes, Porthaethwy ar nos Fercher, Tachwedd 9 am 7 o’r gloch.
“Fe fydd y sesiwn anffurfiol ‘Dewch i Ganu’ yn gyfle i bawb ddod ynghyd i glywed mwy am y prosiect, gan gynnwys manylion ymarferion a’r arweinyddion,” meddai llefarydd yr Eisteddfod Genedlaethol wedyn.