Mae Awst yn Anogia yn “un o nofelau gorau’r blynyddoedd diwethaf”, yn ôl Gareth Miles, awdur a chyfaill i Gareth F Williams a fu farw ddoe (Medi 14).
Meddai Gareth Miles wrth golwg360: “Dw i’n ystyried fy hun yn gyfaill i Gareth F Williams er na welon ni mo’n gilydd yn aml iawn yn ystod y blynyddoedd dwytha… Ges i flas ar nifer o’i lyfrau fo, yn enwedig Awst yn Anogia.
“Dw i’n meddwl bod y nofel honno yn un o nofelau gorau’r blynyddoedd dwytha, ac yn dangos ein bod ni ar drothwy cyfnod newydd.”
Ychwanegodd fod ei farwolaeth yn “golled fawr i lenyddiaeth Gymraeg a phawb sy’n hoffi darllen”.
Mae ‘Awst yn Anogia’ wedi’i lleoli ar ynys Creta adeg yr Ail Ryfel Byd, ac mi enillodd wobr Llyfr y Flwyddyn yn 2015.
Yn ôl Gareth Miles, un o gryfderau Gareth F Williams fel nofelydd oedd ei fod yn osgoi “diwylliant dynwaredol a chyfieithiedig”.
“Oedd o’n gynhyrchiol tan y diwedd. Mae Bethan Gwanas wedi bod yn datgan yn glir iawn yn ddiweddar mor bwysig ydi cael nofelau gwreiddiol Cymraeg yn hytrach na chyfieithiadau.
“Wel, mae peryg i ddiwylliant Cymraeg fynd yn ddiwylliant dynwaredol a chyfieithiedig. Mae dylanwad Gareth F Williams yn wrthwynebus i hynny drwy ei fod o wedi sgrifennu nofelau Cymraeg gwreiddiol am Gymru Gymraeg gyfoes.”