Er mwyn dathlu Diwrnod y Llyfr eleni mae golwg360 wedi bod yn holi rhai o awduron Cymru am eu hoff lyfrau.

Dyma’r hyn oedd ganddyn nhw i’w ddweud…


Angharad Tomos

Er efallai yn fwyaf adnabyddus am ei chyfres o lyfrau plant Rala Rwdins, mae’r awdures o Ddyffryn Nantlle hefyd wedi sgrifennu a golygu llyfrau i oedolion gan gynnwys Y Castell Siwgr, Wrth fy nagrau i a Merched Peryglus.

Y llyfr sydd wedi gwneud argraff arni’n ddiweddar yw Y Delyn Aur gan Malachy Edwards.

Yn y nofel, mae’r awdur yn ystyried ei lwybr personol ac yn olrhain hanes ei deulu yn Iwerddon a Barbados, ac yn trafod profiadau megis genedigaeth ei blant.

“Roedd o’n llyfr hollol wahanol i beth roeddwn i wedi’i ddisgwyl o’r teitl,” medd Angharad Tomos.

“Mae o’n trafod bywyd rhywun gyda bywyd gwahanol i fy un i ac mae o’n mynd â chi i gymaint o gyfeiriadau gwahanol.

“Dw i’n ei roi o’n anrheg yn aml rŵan.”

Llyfr cyfoes arall bu iddi fwynhau yn ddiweddar oedd Cwlwm gan Ffion Enlli, nofel sy’n dilyn cymeriad yn ei hugeiniau yn Llundain wrth iddi fyfyrio ar ei pherthynas â Chymru a’i hunaniaeth Gymreig.

Dywed Angharad Tomos mai ei hoff awdures yw Angharad Price, sy’n gyfrifol am y nofel Caersaint a’r llyfr ffeithiol Ffarwél i Freiburg.


Alun Davies

Yn wreiddiol o Aberystwyth ond bellach yn byw yng Nghaerdydd, mae Alun Davies wedi sgrifennu llu o nofelau gan gynnwys Manawydan Jones: Y Pair Dadeni a Pwy yw Moses John?

Yn ôl yr awdur, y llyfr Cymraeg orau bu iddo ddarllen yn ddiweddar oedd Y Trên Bwled Olaf o Ninefe gan Daniel Davies.

Mae’r gyfrol o straeon byr yn dilyn unigolion sy’n cadw hyd braich oddi wrth eraill, ac yn defnyddio hiwmor tywyll er mwyn taro golwg sinigaidd ar gymdeithas yng ngorllewin Cymru.

Ei hoff lyfrau erioed yw’r gyfres The Lord of the Rings.

O ran awduron, Llwyd Owen sydd yn sefyll allan i Alun Davies.

“Jyst achos bod cymaint o lyfrau gydag ef, mae o wedi bod wrthi am amser hir, ac mae o rili wedi gwthio ffiniau llenyddiaeth Cymraeg,” meddai.

“Mae o wedi gwneud rhywbeth oedd yn arfer cael ei weld yn eithaf hen ffasiwn yn rhywbeth lot fwy cyfoes a gafaelgar.”

Mae hefyd yn mwynhau gwaith yr awdur Americanaidd Erik Larson, sydd yn adrodd digwyddiadau hanesyddol ar ffurf naratif.


Elidir Jones

Dewis poblogaidd heddiw, a chyfres The Lord of the Rings yw ffefrynnau Elidir Jones hefyd.

Mae’r awdur o Fangor fwyaf adnabyddus am ei nofelau Yr Horwth, Stori Sydyn: Aduniad, Chwedlau’r Copa Coch: Lladron y Deyrnas Goll ac Y Porthwll.

Ond, yn ddiweddar mae wedi bod yn ail fyw cyfres a ddarllenodd pan oedd yn ei arddegau – The Dark Tower gan Stephen King.

“Mae yna saith o lyfrau – cyfuniad o ffantasi ac arswyd ac ôl-apoctolyptaidd a rhamant ac Western,” meddai.

“Mae yna bob math o themâu yn y llyfrau.

“Mae yna ffilm wedi cael ei wneud ond roedd hi’n wirioneddol wael.

“Felly gan nad oes yna gyfres na ffilm lwyddiannus does yna ddim llawer o bobol yn gwybod amdanyn nhw.

“Dyma ydi rhai o’r llyfrau lleiaf poblogaidd o’i waith o ond dw i wrth fy modd gyda nhw.

“Mae yna gymaint o ddychymyg, ti byth yn gwybod lle mae’r stori yn mynd.

“Prin iawn mae llyfrau ti’n eu darllen yn dy arddegau yn dal i fod yn dda pan ti’n oedolyn ond mae’r rhain hyd yn oed yn well na ti’n eu cofio nhw.”

Ychwanega mai Emyr Humphreys yw un o’i hoff awduron o Gymru.

“Mae ganddo fo nofelau fel Y Tri Llais, stori reit fer ond dim ots faint o weithiau ti’n ei darllen hi ti dal i ffeindio pethau newydd,” meddai.

“Mae o’n gallu dweud straeon syml ond hefyd rhai mwy epig fel Land of the Living.

“Mae o’n awdur sydd ddim yn cael digon o glod, dw i’m yn meddwl, yng Nghymru.”


Lleucu Roberts

Mae’r awdures yn wreiddiol o Geredigion ond bellach yn byw yn Rhostryfan, Gwynedd.

Enillodd Fedal Rhyddiaith yn Eisteddfod AmGen 2021 gyda’i nofel Y Stori Orau sy’n dilyn perthynas mam a merch, wrth iddyn nhw deithio i leoliadau arwyddocaol yn hanes Cymru ac adrodd straeon ar hyd y ffordd.

Mae hi hefyd wedi sgrifennu sawl nofel arall gan gynnwys Hannah-Jane a’r gyfres trioleg Yma.

Ateb syml oedd ganddi pan ofynnwyd beth oedd ei hoff lyfr.

Dail Pren gan Waldo Williams,” meddai.