Yn dilyn arbrawf y llynedd, fe fydd Llenyddiaeth Cymru yn dathlu Diwrnod Cenedlaethol Barddoniaeth unwaith eto eleni gyda Her 100 Cerdd.

Mae pedwar bardd wedi derbyn yr her i greu a chyhoeddi cant o gerddi gwreiddiol ar y we o fewn 24 awr.

Llynedd, llwyddodd tîm Talwrn Y Glêr – Osian Rhys Jones, Iwan Rhys, Eurig Salisbury a Hywel Griffiths – i bostio’r canfed cerdd ar y wefan gyda munud yn unig i’w sbario.

Bydd yr her yn cychwyn am hanner nos, Hydref 3, ac yn dod i ben am hanner nos y noson ganlynol – ar ddiwedd Diwrnod Cenedlaethol Barddoniaeth.

Bydd modd darllen y cerddi wrth iddynt gael eu postio fesul un, boed mewn ysgrifen, fideo neu glip llais, drwy gydol y diwrnod ar wefan her100cerdd.co.uk.

Y pedwar bardd

Y pedwar bardd ifanc sydd yn paratoi ar gyfer y diwrnod hir yw:

* enillydd cadair Eisteddfod yr Urdd yn 2012, Gruffudd Antur;

* Elan Grug Muse enillodd y gadair yn Eisteddfod yr Urdd yn Sir Benfro eleni ac sy’n astudio gwleidyddiaeth ym Mhrâg ar hyn o bryd;

* Elis Dafydd o Drefor sy’n olygydd Cornel Greadigol Y Llef, papur newydd Cymraeg myfyrwyr Bangor;

* a Siôn Pennar o Borthmadog sy’n astudio yn Rhydychen.

Gofyn am syniadau

Mae’r cyhoedd yn cael eu gwahodd i awgrymu testunau a themâu i’r beirdd ar y diwrnod drwy drydar @LlenCymru a defnyddio’r hashtag #Her100Cerdd neu drwy adael sylw ar yr adran ‘Eich Awgrymiadau Chi’ ar y wefan.