Osian Rowlands Bardd y gadair
Pymtheg yn cystadlu am y Gadair yn Llanegryn
“Terfyn” oedd testun cystadleuaeth y gadair eleni a’r enillydd teilwng oedd Osian Rowlands o Landwrog, “sy’n gynganeddwr hynod, hynod o feistrolgar” ym marn y beirniad llenyddiaeth Arwel Roberts. Canmolodd safon y gystadleuaeth yn gyffredinol gan ddweud fod “fflachiadau o wreiddioldeb barddol” ymhob cerdd a bod y beirdd “â gafael sicr ar y Gymraeg.” Yn ystod y seremoni seiniwyd y corn gwlad gan Lewis Hughes, cyrchwyd Osian Rowlands i’r llwyfan gan Rhys ac Eirug, cyfarchwyd ef gan Sulwyn Jones a Bethan Davies a chanwyd cân y cadeirio gan Gwilym Bryniog.
Canu Emyn dros 60 - Arthur Wyn Parry Groeslon
Cafwyd cystadlu brwd drwy gydol y dydd a phlesiwyd y beirniaid Robat Arwyn, Ann Fychan ac Arfon Williams gyda’r safon. Braf oedd gweld cymaint o blant Ysgol Llanegryn ar y llwyfan ymhlith cystadleuwyr eraill a ddaeth o bell ac agos, ac roedd arddangosfa ardderchog o waith Celf disgyblion Cynradd ac Uwchradd yr ardal yn y Neuadd. Diolch i Jane Barraclough ac Eleri Davies am gloriannu’r gwaith yma. Llwyddodd yr arweinyddion sef Janet Pugh, Mair Rees ac Edward Jones i greu awyrgylch gartrefol ac roedd cyfeilio medrus Tudur Jones (piano) ac Eirian Jones (telyn) yn gefn i’r cystadleuwyr.
Her unawd, 1af Rhys Jones 2il Meilyr Wyn Jones 3ydd Alwyn Evans
Y llywydd eleni oedd Mr Haydn Rees, Penywern a chafwyd y pleser o’i gwmni am ran helaeth o’r dydd yn ogystal ag araith bwrpasol yng nghyfarfod yr hwyr. Dymuna’r pwyllgor ddiolch o galon am bob cyfraniad, cymorth a chefnogaeth a sicrhaodd lwyddiant y diwrnod.
deuawd dan 12 Beca Fflur a Anest Eurig
Cystadleuaeth | Buddugol |
Unawd Meithrin a Derbyn | Liwsi Roberts, Meifod |
Llefaru Meithrin a Derbyn | Alison Beard, Tywyn |
Unawd Blwyddyn 2 ac Iau | Nansi Rhys, Caerdydd |
Llefaru Blwyddyn 2 ac Iau | Nansi Rhys, Caerdydd |
Unawd Cerdd Dant Blwyddyn 2 ac Iau | Nansi Rhys, Caerdydd |
Unawd Blwyddyn 3 a 4 | Erin Aled, Llanuwchllyn |
Llefaru Blwyddyn 3 a 4 | Owain John, Llansannan |
Unawd Cerdd Dant Blwyddyn 3 a 4 | Beca Jarman, Llanuwchllyn |
Parti Cerdd Dant | Ysgol Gynradd Llanegryn |
Parti Llefaru | Ysgol Gynradd Llanegryn |
Parti Deulais | Ysgol Gynradd Llanegryn |
Unawd Blwyddyn 5 a 6 | Cai Fôn, Talwrn |
Llefaru Blwyddyn 5 a 6 | Beca Fflur, Aberystwyth |
Unawd Cerdd Dant Blwyddyn 5 a 6 | Cai Fôn, Talwrn |
Alaw Werin Blwyddyn 6 ac Iau | Cai Fôn, Talwrn |
Deuawd Blwyddyn 6 ac Iau, | Beca Fflur ac Anest Eurig, Aberystwyth |
Unawd Blwyddyn 7 i 9 | Arwen Elysteg, Brithdir |
Llefaru Blwyddyn 7 i 9 | Bethany Jones, Llyn Penmaen |
Cystadleuaeth | Buddugol |
Unawd Cerdd Dant Blwyddyn 7 i 9 | Arwen Elysteg, Brithdir |
Unawd Piano Blwyddyn 9 ac Iau | Erin Aled, Llanuwchllyn |
Unawd Offeryn Cerdd dan 20 oed | Heledd Besent, Pennal |
Unawd dan 25 oed | Angharad Rowlands, Dinbych |
Llefaru dan 25 oed | Heulen Cynfal |
Unawd Sioe Gerdd | Elin Tomos, Pentre Ucha’ a
Heledd Besent, Pennal |
Canu Emyn dros 60 | Arthur Wyn Parry, Groeslon |
Unawd Cerdd Dant | Elin Tomos, Pentre Ucha’ |
Deuawd Eisteddfodau Cymru | Rhys Jones a Heledd Besent |
Cân Werin | Angharad Rowlands, Dinbych |
Parti Llefaru | Merched Madyn, Llanegryn |
Unawd Gymraeg | Rhys Jones, Cemaes |
Her Unawd | Rhys Jones, Cemaes |
Parti Canu | Parti Cymdeithas Llanegryn |
Cai Fon Talwrn
Llenyddiaeth
Cystadleuaeth | Buddugol |
Rhyddiaith Blwyddyn 7 – 9 | Nia Morris, Ysgol Uwchradd Tywyn |
Rhyddiaith Blwyddyn 10 – 11 | Ffion Ellis, Ysgol Uwchradd Tywyn |
Rhyddiaith dan 25 | Elliw Haf Pritchard, Y Groeslon |
Cyfieithu | Gwilym Hughes, Mynytho |
Rhyddiaith Agored | John Meurig Edwards, Aberhonddu |
Cystadleuaeth Dysgwyr | Nia Haf Jones, Rhuthun |
Y Gadair | Osian Rowlands, Llandwrog |
Englyn | Gwen Jones, Aberhosan |
Telyneg | John Meurig Edwards, Aberhonddu |
Limrig | John T. Jones, Llanuwchllyn ac
R. Gwynedd Jones, Rhuthun |