Y Gadair
Roedd Aneirin Karadog ac Iwan Rhys – dau aelod o dîm buddugol ymryson y beirdd, Deuheubarth – i mewn am y Gadair yn Llandw eleni.
Iwan Rhys, y mathemategwr a’r cyfieithydd o Borthyrhyd sydd bellach yn byw yng Nghaernarfon, oedd ‘Cranc’ yn y gystadleuaeth.
Ac Aneirin Karadog, y rapiwr a’r darlledwr, oedd ‘Saunders’. Roedd y ddau wedi’u gosod ymhlith pump uchaf y deg o gystadleuwyr.