Un o'r stondinau a gollodd arian
Mae Heddlu De Cymru yn dweud eu bod wedi dod o hyd i olion DNA yn dilyn y lladradau ar Faes yr Eisteddfod.

Fe fu  swyddogion yn mynd o gwmpas yr unedau a oedd wedi eu heffeithio – mae’n debyg fod olion traed wedi eu canfod hefyd.

Roedd lladron wedi torri i mewn i tua 40 o stondinau nos Iau, gan ddwyn arian a nwyddau  a chreu difrod mewn rhai unedau.

Mae Cyfarwyddwr yr Eisteddfod hefyd wedi ymweld â’r unedau i ymddiheuro am y trafferthion.