Mae’r Cymry wedi bod yn beio’r Ddeddf Uno am lawer o drafferthion y genedl – ond mae hynny’n angywir, meddai hanesydd.

Yn ol John Gwynfor Jones, nid y ddeddf ei hun oedd yn gyfrifol am ddileu annibyniaeth Cymru a Seisnigo’r uchelwyr.

“Y camgymeriad mawr ydi edrych ar y cyfnod hwnnw trwy lygaid ein cyfnod ni, ond mae’n rhaid barnu yng nghyd-destun y cyfnod hwnnw,” meddai. “Roedd yna nifer o newidiadau cymdeithasol yn gyfrifol am y newid yn agwedd bonheddwyr Cymru tuag at y Goron.”