Mae seren rygbi oedd yn enwog am ei daclo cadarn yn edrych ar ôl y giatiau yn y Ganolfan Groeso heddiw.

Mae JPR Williams wedi bod yn dysgu Cymraeg ers pum mlynedd ac mae’n dweud mai’r diweddar Ray Gravell sydd wedi ei ysbrydoli.

“Mae dysgu Cymraeg yn anodd ond yn ddiddorol,” meddai’r cyn-gefnwr. “Mae’n rhywbeth i fi wneud nawr ‘mod i wedi ymddeol. A dw i yma’n stiwardio o achos Grav.”