Leighton Andrews ar Faes yr Eisteddfod
Mae’r Gweinidog Addysg yn gobeithio y bydd Eisteddfod Bro Morgannwg yn dangos potensial y cyfryngau digidol o ran yr iaith Gymraeg.

Dyna un nod sydd ganddo ar gyfer y Brifwyl, meddai Leighton Andrews wrth Golwg 360 – hynny a dangos i fwy o bobol fod yr iaith yn fyw a hyblyg a chael rhagor o bobol ifanc i’w defnyddio hi y tu allan i’r dosbarth.

“R’yn ni’n moyn dangos bod y Gymraeg yn iaith fyw a hyblyg,” meddai ar ôl annerch cyfarfod o’r papurau bro ar y Maes ac addo eu cefnogi’n ariannol i ddefnyddio’r cyfryngau newydd.