Mae Mentrau Iaith Cymru wedi penodi Cydlynydd Cenedlaethol newydd er mwyn bod yn gyswllt rhwng y Mentrau a’r Llywodraeth.
Ers i Fwrdd yr Iaith ddod i ben y Llywodraeth sy’n goruchwylio gwaith y Mentrau o hyrwyddo’r Gymraeg ar lawr gwlad, a bydd y Cydlynydd newydd, Emily Cole, hefyd yn trefnu hyffordiant i swyddogion y Mentrau.
Gwadodd Cadeirydd y Mentrau Iaith fod y penodiad, sy’n cael ei ariannu gan y Llywodraeth, yn fodd o dynnu’r Mentrau i mewn yn nes at y Llywodraeth.