Carwyn Jones
Mae Prif Weinidog Cymru yn dweud y bydd ymweliad yr Eisteddfod Genedlaethol â Bro Morgannwg yn rhoi “hwb aruthrol i’r iaith Gymraeg yn yr ardal”.
Er bod addysg Gymraeg wedi helpu i gynyddu nifer y plant sy’n siarad Cymraeg yn yr ardal ers ymweliad diwetha’r Eisteddfod yn 1968, mae’n dweud ei fod eisiau gweld yr iaith yn mynd i lefel uwch.
“Mynd un cam ymhellach yw’r her yn awr a rhoi cyfle i blant a phobl ifanc fwynhau defnyddio’r Gymraeg y tu fas i’r ysgol. Bydd angen syniadau newydd er mwyn datblygu’r iaith yn y dyfodol a sicrhau ei bod yn goroesi.”