Disgwylir y bydd tua chan mil o ymwelwyr yn dod i Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd Eryri sy’n cychwyn yfory.
Mae’r Eisteddfod yn cael ei chynnal eleni ar dir Coleg Meirion Dwyfor yn Glynllifon ger Caernarfon.
Cynhelir oedfa yn y pafiliwn bore yfory a bydd cyngerdd agoriadol yno gyda’r nos.
Mae llawer o’r artistiaid yn y cyngerdd, gan gynnwys y canwr opera Rhys Meirion yn dod o’r ardal, ac mae gan nifer helaeth gysylltiadau efo’r Urdd ers blynyddoedd. Mae Glain Dafydd bellach yn astudio’r delyn ym Mharis ond mae yn hannu o ardal Bangor Ogwen ac yn gyn enillydd Ysgoloriaeth Bryn Terfel.
“Mae’n fraint cael croesawu cyn-enillwyr sydd bellach fymryn yn hyn hefyd,” meddai Cyfarwyddwr yr Eisteddfod, Aled Sion.
“Mae’r brawd a’r chwaer o Hendre Cennin, sef y tenor John Eifion a’r soprano Helen Medi, wedi ymuno efo’r bariton Iwan Wyn Parry o’r Groeslon a Sian Eirian sy’n byw dafliad carreg o’r maes i greu pedwarawd yn arbennig ar gyfer y cyngerdd.”
“Mae’n fraint cael dod i ardal sydd wedi cynhyrchu cymaint o dalent ag sydd gan wreiddiau diwylliedig dwfn. Ein gobaith fel trefnwyr ydi y bydd y gynulleidfa nos yfory yn mwynhau noson fydd yn gychwyn gwych i wythnos gyffrous ar y maes.”
Bydd ymwelwyr eleni yn cael cynnig arbennig ar gyfer diwrnod olaf y cystadlu ar ddydd Sadwrn 9 Mehefin.
Bydd pob oedolyn sy’n prynu tocyn yn cael un arall am ddim ac fe fydd plant yn cael mynd i mewn yn rhad ac am ddim hefyd.