Mae Bae Caerdydd yn llawer tebycach i faes prifwyl arferol erbyn hyn, gyda stondinau, tipis a baneri ar hyd y lle.
Bydd yr Eisteddfod Genedlaethol yn dod i’r brifddinas ddechrau Awst, ac mae’r gwaith o drawsnewid y Bae ar droed yr wythnos hon.
Erbyn hyn mae stondinau wedi’u gosod o flaen adeilad y Senedd a’r Pierhead, ac mae Tipis Caffi Maes B – a oedd yn noeth brynhawn ddoe – wedi’u gorchuddio.
Ers rhai dyddiau bellach mae hen ganolfan y Doctor Who Experience, wedi cael ei drawsnewid mewn i fan gigs ieuenctid yr Eisteddfod – Maes B.
Ar Rodfa Lloyd George mae rhes o faneri ‘Eisteddfod’ wedi’u gosod, i groesawu’r Eisteddfodwyr a fydd yn heidio yno ymhen wythnos.
Mae arwyddion o groeso hefyd wedi’u gosod ar Ganolfan y Mileniwm – neu’r ‘Pafiliwn’.
Mae Plass Roald Dahl ar gau o hyd, ond mae pethau yn prysuro yno. Dyma lle fydd y Pentre Bwyd a Llwyfan y Maes.
Bydd Eisteddfod Caerdydd yn cael ei gynnal rhwng Awst 3 ac 11.