Mae perchennog cwmni selsig enwocaf Sir Conwy ymhlith y bobol a fydd yn Llywyddion Anrhydeddus ar Eisteddfod Genedlaethol Llanrwst 2019.
Ac yn ymuno gydag Ieuan Edwards o gwmni cig ‘Edwards of Conwy’ bydd ffigyrau adnabyddus eraill o’r sir – y prifardd dwbwl Myrddin ap Dafydd, y cerddorion Dafydd a Catherine Lloyd Jones, Maureen Hughes, y gerdd-dantwraig Catherine Watkin a’r artist tecstilau Cefyn Burgess.
Bydd yr Eisteddfod Genedlaethol y flwyddyn nesa’ yn cael ei chynnal yn Llanrwst, Sir Conwy rhwng Awst 2 a 10.
“Cydnabod cyfraniad”
“Mae’n bwysig cydnabod cyfraniad unigolion allweddol i ddiwylliant bro’r Eisteddfod,” meddai Elfed Roberts, Prif Weithredwr yr Eisteddfod.
“Dyma bobol sy’n gweithio’n ddiflino drwy’r amser, os yw Eisteddfod ar y gorwel ai peidio. Heb y bobol yma, byddai’r ardal yn dipyn tlotach ei diwylliant.”