Enillydd Coron Eisteddfod Brycheiniog a Maesyfed 2018 yw Erin Hughes o Ben Llŷn.
Mae’n ennill am ddarn o ryddiaith ar y thema ‘Terfysg’, i ganmoliaeth uchel gan y beirniaid, Catrin Beard a Lleucu Roberts.
Mae Erin Hughes, 20, yn byw yng Ngheidio, yn ardal Boduan ger Pwllheli ac yn blentyn canol o bump o blant.
Nid oedd yn bresennol i dderbyn ei choron yn seremoni heddiw oherwydd salwch.
Mae yn dioddef o gyflwr sy’n ymyrryd ar y cyswllt rhwng y nerfau a’r cyhyrau; cyflwr a elwir yn Myasthenia Gravis.
Roedd ei darlithydd Cymraeg ym Mhrifysgol Bangor, Gerwyn Williams, a wnaeth ei hannog i gystadlu, yn y Pafiliwn i dderbyn y wobr ar ei rhan.
Pan fydd yn teimlo’n well, mae’r Urdd am drefnu seremoni yn y dyfodol er mwyn ei hanrhydeddu.
“Cysondeb safon drwyddi draw”
Cafodd Erin Hughes, sydd hefyd yn astudio Cymdeithaseg yn y brifysgol, ei gwobrwyo am gyflwyno darn o ryddiaith ar y thema ‘Terfysg’.
Y beirniaid eleni oedd Catrin Beard a Lleucu Roberts, ac wrth draddodi’r feirniadaeth, dywedodd Cartrin Beard fod y safon eleni wedi bod yn uchel iawn.
Bu 14 o gystadleuwyr ac roedd saith ohonyn nhw’n haeddu cael eu coroni, meddai.
“Mae canfod y darn arbennig hwnnw bob amser yn wefr, ond mae derbyn sawl darn rhagorol, gwreiddiol, aeddfed a safonol eu mynegiant yn brofiad prin, i’w drysori. Mae’n bleser cael dweud mai dyma ddigwyddodd eleni.”
Ond Erin Hughes, dan y ffugenw ‘Melyn’ a gafodd y ddaeth i’r brig a hynny oherwydd y cysondeb yn y darn.
“Llwydda Melyn i daro’r darllenydd yn ei dalcen gyda’r disgrifiadau o ymweliadau Du, ac mae dyfodiad telynegol Gwyn fel y lloer i oleuo’r noson dywyll yn drawiadol,” meddai Catrin Beard.
“Ceir yr un safon yn yr ail stori, Dau Aderyn, sy’n sôn am fab a’i fam yn gwylio dyn yn neidio o un o’r ddau dŵr a ddisgynnodd yn Efrog Newydd.
“Gŵyr y llanc mai ei dad sy’n syrthio, ac effaith y gwybod enbyd hwn ar y fam yw craidd y stori. Mae’r ddrama’n datblygu fesul eiliad wrth i amser arafu, ond ar wyneb ei fam y mae’r ddrama i’r mab wrth edrych yn ôl.
“Oherwydd i’r awdur lwyddo i gynnal cysondeb safon drwyddi draw, a chreu darluniau fydd yn aros yn hir yn y cof, penderfynwyd dyfarnu’r goron eleni i Melyn.”
Daeth Mared Roberts o Aelwyd y Waunddyfal, Caerdydd yn ail a Iestyn Tyne o Aelwyd Pantycelyn, Aberystwyth yn drydydd.