Gwynfryn Evans, Gwyn Marchlyn (Llun: golwg360)
Mae Cadeirydd bwrdd rheoli gwefan golwg360 wedi’i anrhydeddu â’r wisg las yn Eisteddfod Genedlaethol Ynys Mon heddiw.

Fe dreuliodd Gwynfryn Evans ei oes waith yn y diwydiant cynhyrchu llaeth, a hynny yng Nghymru ac yng ngogledd Lloegr, ond mae bellach wedi ymddeol.

Ac fe fydd ei gyfnod yn Gadeirydd ar fwrdd y wefan hon yn dod i ben yn yr hydref eleni.

Fe fydd yn cael ei adnabod yng Ngorsedd dan yr enw ‘Gwyn Marchlyn’.