Cynhaliwyd eisteddfod lwyddiannus iawn yn Neuadd Llandyfaelog ar ddydd Sadwrn, Tachwedd 6ed gyda’r cystadlu yn frwd ac yn niferus trwy’r dydd. Y beirniaid eleni oedd :- Cerdd – Mr. Terence Lloyd, Llandudoch, Llefaru a llên – Y Prifardd Aled Gwyn, Caerdydd ac Arlunio – Mrs Rosemary Jones, Idole.
Bu Mr. Geraint Rees, Idole yn cyfeilio ar gyfer y cystadlaethau lleol a Mr Gareth Wyn Thomas, Capel Hendre yn cyfeilio ar gyfer y cystadlaethau agored.
Llywyddion yr eisteddfod eleni oedd Mrs. Mary Evans, Peniel yn y prynhawn a Mrs. Cerys Griffiths, Penarth yn yr hwyr. Cafwyd anerchiadau a chyfraniadau gwerthfawr gan y ddau lywydd, y ddwy ohonynt â chysylltiad agos iawn gyda bro yr eisteddfod.
Enillwyd Cadair yr eisteddfod gan Geraint Morgan, Penlle’rgaer, Abertawe gyda cherdd gaeth ar y testun “Llanw”. Yr oedd hi’n gystadleuaeth safonol a niferus o ran ymgeiswyr ac fe blesiwyd y beirniad yn fawr iawn. Yr oedd y gadair hardd yn rhoddedig gan Evans Buildings, Cwmffrwd.
Cyflwynwyd Cwpan Coffa John a Nan Anderson, Trelimsey i Maja Pickles am fod y cystadleuydd lleol o dan 11 oed sydd yn dangos yr addewid fwyaf. Cyflwynwyd Ysgoloriaethau Dr. Ron a Mrs. Betty Rees i Enlli Eluned Lewis (cerddoriaeth) ac Ifan Knott (llefaru) i’r cystadleuwyr gorau lleol o dan 16 oed. Cyflwynwyd cwpan her i’r ysgol leol uchaf ei marciau i Ysgol Y Fro. Cyflwynwyd cwpan her er cof am John Jones am lwyfannu eitem gan fudiadau lleol i Gapel Penygraig.
Mae aelodau’r pwyllgor yn gwerthfawrogi pob cyfraniad a chefnogaeth tuag at lwyddiant yr eisteddfod. Dyma restr o’r buddugol ymhob cystadleuaeth.
Canlyniadau’r Eisteddfod
CERDD (lleol)
Cystadleuaeth | 1af | 2il | 3ydd |
Unawd Bl. 1 a 2 | Lowri Jones | Ifan Knott | Leia Thomas |
Unawd Bl. 3 a 4 | Luke Rees | Iwan Thomas | Ellen Williams |
Unawd Bl. 5 a 6 | Osian Knott | Maja Pickles | Caryl Jones |
Unawd offeryn cerdd ysgolion cynradd | Gemma Davies | Ffion Gibbon | Caryl Jones |
Parti unsain dan 16 | Ysgol Y Fro | Ysgol Y Fro | |
Unawd Offeryn Cerdd 11 – 16 | Bethan Phillips | Enlli Eluned Lewis | Manon James |
Parti Recorder | Ysgol Y Fro | Ysgol Y Fro | |
Unawd 11 – 16 | Enlli Eluned Lewis | Delyth Davies | Manon James |
LLEFARU (lleol)
Cystadleuaeth | 1af | 2il | 3ydd |
Llefaru Bl. 1 a 2 | Ifan Knott | Fflur Richards | Lowri Jones |
Llefaru Bl. 3 a 4 | Ffion Gibbon | Iwan Thomas | Iestyn Richards |
Llefaru Bl. 5 a 6 | Maja Phillips | Osian Knott | Caryl Jones |
Llefaru dysgwyr Bl. 6 a iau | Maja Pickles | Orianna Evans | |
Llefaru 11 – 16 | Enlli Eluned Lewis |
ARLUNIO (lleol)
Cystadleuaeth | 1af | 2il | 3ydd |
Blwyddyn 1 a 2 | Kelly Solloway | Lowri Elen Jones | Louis Zhac |
Blwyddyn 3 a 4 | Dylan Williams | Isabell Trigwell-Jones | Hannah Thomas |
Blwyddyn 5 a 6 | Maja Pickles | Joanna Meliou a William Thomas | Caryl Jones |
Llawysgrifen Blwyddyn 7 – 11 | Manon James |
CERDD (agored)
Cystadleuaeth | Buddugol |
Unawd dan 7 | Megan Bryer |
Unawd 7 – 11 | Hannah Louise Richards |
Unawd 11 – 14 | Gwenllian Phillips |
Unawd 14 – 17 | Caryl Medi Lewis |
Unawd Alaw Werin dan 17 | Mirain Sarah |
Unawd Sioe Gerdd dan 30 | Laura Blundell |
Emyn dan 50 | Laura Blundell |
Emyn dros 50 | Vernon Mahar |
Deuawd agored | Laura Blundell ac Adam Gilbert |
Cenwch i’m yr Hen Ganiadau | Vernon Mahar |
Her Unawd dros 17 | Adam Gilbert |
Parti neu gôr | Only Mynydd Aloud”, Mynydd-y-Garreg |
LLEFARU (agored)
Cystadleuaeth | Buddugol |
Llefaru dan 7 | Megan Bryer |
Llefaru 7 – 11 | Sarah Louise Davies |
Llefaru 14 – 17 | Caryl Medi Lewis |
Darllen Darn o’r Ysgrythur dros 17 | Margaret Roberts |
Her adroddiad dan 30 | Enli Eluned Lewis |
Her Adroddiad | Joy Parry |
LLENYDDIAETH
Y Gadair – Geraint Morgan, Penlle’rgaer, Abertawe
Tlws yr Ifanc – Anys Wood, Llansamlet ac Ysgol Gyfun Gymraeg Bryntawe
Cystadleuaeth | 1af | 2il | 3ydd |
Englyn | John Ffrancon Griffith, Abergele | Richard Llwyd Jones, Caernarfon | |
Gorffen Limrig | Peter Lewis, Croesyceiliog | ||
Ysgrif ysgolion cynradd lleol | Hannah Thomas | ||
Erthygl (Blynyddoedd 7 – 9) | Sioned Martha Davies, Pencader | Aled Eifion James, Croeyceiliog | Leanne Ward, Ysgol Bryntawe, Aled Eifion James, Croesyceiliog |
Darn o waith creadigol (Blynyddoedd 10 – 11 uwchradd) | Esyllt Lewis, Ysgol Bryntawe | Enlli Eluned Lewis, Croesyceiliog, | Geraint Meek, Ysgol Bryntawe,Enlli Eluned Lewis, Croesyceiliog |