Cafodd tlws newydd ei gyflwyno i’r Gymdeithas Cerdd Dant ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol yn Ninbych heddiw.
Bydd Tlws Coffa Dic Jones yn cael ei gyflwyno i arweinydd neu hyfforddwr y côr cerdd dant buddugol  yn yr Ŵyl Cerdd Dant pob blwyddyn.
Bu farw’r cyn Archdderwydd, Dic Jones, yn 2009 ac roedd yn hoff o glywed ei gerddi yn cael eu canu ar gerdd dant.
Roedd aelodau o Gôr Meibion Blaenporth, Côr Pensiynwyr Aberteifi a’r Cylch a Chymdeithas Ceredigion – tri sefydliad oedd  Dic Jones yn aelod ohonynt – yn ogystal â theulu Dic Jones yn cyflwyno’r tlws i gadeirydd y Gymdeithas Cerdd Dant, Owain Sion, heddiw.

Dau aelod o Gôr Meibion Blaenporth, Hywel Bowen ac Ifan Jones, wnaeth ddylunio’r tlws hefyd.
Meddai Dewi Jones, trefnydd y gwyliau cerdd dant: “Roedd Dic yn ofnadwy o hoff o glywed ei gerddi’n cael eu canu ar gerdd dant ac mae’n debyg mai ei gerddi o yw’r rhai mwyaf poblogaidd gan gerdd dantwyr.
“Roedd ‘sgwennu cerddi a oedd yn ‘canu’ yn bwysig iddo ac mae ei farddoniaeth yn canu.”
Dywedodd Owain Sion, cadeirydd Cymdeithas Cerdd Dant Cymru: “Dwi eisiau diolch i Gôr Meibion Blaenporth, Côr Pensiynwyr Aberteifi a’r Cylch a Chymdeithas Ceredigion am y tlws yma. Mi fydd hi’n cael ei chyflwyno i hyfforddwr y côr gorau yn yr Ŵyl Gerdd Dant ac mae hi’n ofnadwy o addas, felly, mai cerdd gan Dic Jones fydd yn cael ei chanu yn y gystadleuaeth eleni.”