Y band Cast, yn cynnwys Liam 'Skin' Tyson
Roedd yna ganmol mawr i grwp roc a phop buddugol Blwyddyn 6 ac iau ddoe.

O Lanuwchllyn y mae’r criw Y Storm yn dod, ac efallai nad ydi hi mor annisgwyl clywed am eu llwyddiant pan ystyriwch chi fod dau o’r aelodau’n feibion i gitarydd roc byd-enwog.

Y gitarydd hwnnw ydi Liam Sean Tyson – sy’n fwy adnabyddus yn y byd roc a rol dan ei lysenw, ‘Skin’ – ac roedd yn brif gitarydd ar gyfer y band Cast yn eu cyfnod ar frig y don ar ddiwedd yr 1980au a dechrau’r 1990au.

Er mai brodor o Lerpwl ydi Liam Tyson, mae ef a’r teulu erbyn hyn yn byw yn ardal y Bala.