Mae canwr band indi-roc Yr Ods wedi bod yn manteisio ar ei amser yn hunan-ynysu i berffeithio ei driciau taflu tost a bagiau te.

Ac mae Griff Lynch wedi bod yn rhannu fidoes o’i ddoniau consurio ceginol ar ei ffrwd Trydar.

“Trio ffeindio rhywbeth i beidio gwneud gwaith oeddwn i,” eglura’r cerddor.

“Mae’r afiechyd yma’n rhoi rhesymau i bobl wneud pethau fasa nhw ddim yn eu gwneud fel arfer, fatha taflu tea bags i mewn i fygs.” 

Ac yn ôl Griff Lynch mae o’n llwyddo i hitio’r targed “first time” pob tro, er bod rhai wedi awgrymu ei fod yn ffilmio sawl take cyn cael y bag te i’w le.

Ond mae’r cerddor yn credu bod “gwneud rhywbeth gwirion” yn gallu codi pwysau oddi ar ysgwyddau pobl mewn cyfnod mor ansicr. 

“Mae’n hanfodol cael laff, yn enwedig i bobol greadigol sy’n teimlo bo’ nhw dan bwysau i wneud rhywbeth.

“Does yna ddim pwysau, mae pawb angen chilio, neu wneud rhywbeth gwirion. Does yna neb yn gweithio’n dda o dan bwysau.”

Gary Wyn yn cwyno am y chwyn 

Un dyn sydd ddim yn dotio at driciau taflu tost Griff Lynch yw ei dad, Gary Wyn.

Bu’r hanesydd a’r dyn busnes yn dwrdio mewn neges drydar gan holi pam bod ei fab yn anwybyddu’r chwyn y tu allan i ffenestr ei gegin yng Nghaerdydd.

Ond yn ôl Griff Lynch mae o “wedi gwneud y chwynnu a dydi dad ddim ond yn jealous mod i’n cael gymaint o likes ar Trydar.” 

Dyma’r dyn wrth ei waith…