Bydd rhaglen ddogfen am Meic Stevens yn cael ei darlledu heno (nos Sadwrn, Hydref 19).
Bydd y ffilm awr a chwarter o hyd yn adrodd hanes bywyd y canwr, gan blethu cynnwys o’r archif am ei ddyddiau cynnar yn Solfa, Manceinion a Chaerdydd, a chynnwys gwreiddiol, cyfoes o’i fywyd heddiw yn y Sblot yng Nghaerdydd sy’n cynnwys cwffio canser.
“Dwi’n teimlo bod pobol yn ei chael hi’n hawdd iawn i feirniadu Meic Stevens,” meddai Guto.Williams, y cyfarwyddwr.
“Does yna neb tebyg wedi bod i Meic – mae ei ddylanwad ar gerddoriaeth gyfoes Gymraeg yn un heb ei ail. Mae o’n aml yn cael ei gamddeall.”
‘Cyfle i esbonio’i hun’
Roedd Meic Stevens yn y newyddion dros y misoedd diwethaf yn sgil honiadau iddo fod yn hiliol yn ystod ei berfformiad yng Ngŵyl Arall, Caernarfon.
Bydd y rhaglen ddogfen yn trafod yr honiadau.
“Mi ddigwyddodd yr honiadau ar ddiwedd ein proses ffilmio, a doedd dim modd osgoi cynnwys hynny yn y ffilm,” meddai.Guto Williams wedyn.
“Roedd o’n berson gwahanol ar ôl yr honiadau. Dw i’n rhoi cyfle iddo esbonio’i hun yn y ffilm.”