Mae yna beryg i gyngherddau nos yr Eisteddfod Genedlaethol droi’n “ghettos i’r rhai breintiedig” wrth i brisiau’r tocynnau ar gyfer sioeau gyda’r nos gynyddu rhwng £9 a £12.

Eleni yn Eisteddfod Genedlaethol Sir Conwy, fe fydd tocyn i’r sioe agoriadol, Y Tylwyth yn costio £29 i oedolyn a £20 i blentyn, tra bod arlwy’r nosweithiau eraill yn y Pafiliwn i gyd yn £27 i oedolion a £20 i blant.

Mae hynny’n golygu cynnydd o rhwng £9 i £12 yng nghost tocyn oedolyn ar gyfer pob un o’r cyngherddau nos eleni, o gymharu â’r llynedd.

Mae’n golygu hefyd bod y gost ar gyfer teulu dau riant a dau blentyn bron yn £100 am noson yn y Pafiliwn.

Cwyno ar y cyfryngau cymdeithasol

Ers y cyhoeddiad, mae nifer wedi troi at y cyfryngau cymdeithasol i gwyno am y cynnydd mewn prisiau, gyda nifer yn dweud y byddai’n ergyd i deuluoedd a’r rheiny sy’n llai breintiedig.

Mae rhai hefyd wedi cwestiynu a ydi’r cynnydd o ganlyniad i’r colled ariannol o £290,000 a wnaeth y Brifwyl ym Mae Caerdydd y llynedd.

Mae trefnwyr y Brifwyl yn gwadu hynny, gan ddweud nad yw colledion un brifwyl yn cael eu trosglwyddo i’r ŵyl nesaf.

“Atal canran o’r gymdeithas”

Mae Huw Marshall yn un o’r rheiny sydd wedi mynegi ei bryderon am y mater ar Twitter, gan ddweud ei fod yn poeni “bod yna haen o Gymry Cymraeg sy’n cael eu difreinio o ddigwyddiadau diwylliannol Cymraeg” ac yn gofyn “Ai ghettos i’r rhai breintiedig rydan ni eisiau creu?”

“Mae’r costau yn atal canran o’r gymdeithas,” meddai Huw Marshall wrth golwg360.

“Ry’n ni’n anghofio nad ydy’r Cymry Cymraeg i gyd yn ddosbarth canol. Mae yna lot o Gymry Cymraeg sydd yn ddosbarth gweithiol ac sy’n byw bywydau digon cyffredin.

“Ac mae’n rhaid i ni sicrhau bod pawb sydd yng Nghymru sydd efo’r Gymraeg, yn enwedig pobol sy’n ddi-Gymraeg ac sy’n gyrru eu plant nhw i ysgolion Cymraeg, yn medru cael mynediad i weithgareddau diwylliannol Cymraeg.”

Cynyrchiadau o safon yn “costio”

Mewn ymateb, dywed trefnwyr yr Eisteddfod Genedlaethol fod “creu cynyrchiadau llwyfan o safon ryngwladol yn costio”, a bod angen i’r incwm o’r tocynnau “ddiwallu’r costau hyn”.

“Rydym wedi gwneud gwaith ymchwil trylwyr wrth bennu’r prisiau, ac mae pris pob noson yn cymharu’n ffafriol gyda sioeau cyffelyb mewn canolfannau artistig a theatrau yng Nghymru a thu hwnt,” meddai llefarydd.

“Mae’n rhaid cofio hefyd mai rhan o’r arlwy gyda’r nos yw’r perfformiadau ar lwyfan y Pafiliwn, ac mae lleoliadau fel Llwyfan y Maes a Tŷ Gwerin a llawer mwy yn cynnig perfformiadau gyda’r nos yn rhad ac am ddim ar Faes yr Eisteddfod. Felly, mae digonedd o ddewis i bawb.”