Fe all gwrandawiad pwysig ar sgandal ymosodiadau rhyw Harvey Weinstein gael ei gynnal tu ôl i’r llenni.
Ond mae’r Wasg a’r Cyfryngau yn cwffio i gadw’r llys yn agored.
Mae’r erlynwyr a’r amddiffynwyr wedi gofyn am gadw’r gwrandawiad heddiw (Dydd Gwener, Ebrill 26) – sy’n delio gyda strategaeth y gwrandawiad a thystion posib – yn gyfrinachol.
Eu dadl yw bod gan Harvey Weinstein hawl i achos teg a bod angen cuddio gwybodaeth am y menywod sydd wedi’i gyhuddo o gamymddwyn yn rhywiol.
Mae Harvey Weinstein yn gwadu pob cyhuddiad yn ei erbyn, sy’n cynnwys cael rhyw heb ganiatâd.
Fe fydd cyfreithwyr sefydliadau’r Cyfryngau fel The Associated Press a’r New York Times yn ymddangos yn y llys o flaen y barnwr James Burke.
Maen nhw’n dadlau nad yw’r ddwy ochr wedi cyrraedd safon gyfreithiol uchel ar gyfer cau’r llys.