Pan gafodd dau frawd bach o ogledd Llandaf gyfarfod â baritôn byd-enwog yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd yr wythnos hon, roedden nhw’n gwybod eu bod wedi ei weld yn rhywle o’r blaen…
Roedd hynny ar ddechrau eu gwyliau haf, a Gruff a Cai allan gyda’u mam, Bethan, yn archfarchnad Lidl, yr Eglwys Newydd.
Bryd hynny roedden nhw, fel y mae bechgyn direidus weithiau, yn cadw dipyn o swn, a Mam yn trio cael trefn arnyn nhw… pan ddaeth chwiban siarp a bloedd gan ddyn mawr yn dweud “Hei! Fi ydi plismon Lidl!”
Perchennog y chwiban, a’r llais taranllyd, oedd Bryn Terfel.
Dyma nhw yn cyfarfod â’r canwr ym Mhlass Roald Dahl, Bae Caerdydd, a’u taid, Hywel Meredydd Davies, yn cofnodi’r digwyddiad ar ei gyfrif Twitter:
Clywodd Gruff chwiban am nad oedd yn gwrando ar Bethan ei fam tra’n siopa yn Lidl Gogledd Llandaf. Clywodd @Bryn_Terfel yn cyflwyno ei hun fel Plismon Lidl a gorchymyn i Gruff o hyn ymlaen wrando ar ei fam! Dydd Llun yn y steddfod cafodd y Plismon aduniad gyda Gruff @BBCCymruFyw pic.twitter.com/UxAJEFM12F
— hywelmeredydd (@hywelmeredydd) August 7, 2018