Mae’r Cynulliad wedi ffurfio côr i gystadlu yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd 2018, gydag Aelodau Cynulliad a staff y sefydliad yn rhan ohono.
Mae’n debyg mai syniad Y Llywydd, Elin Jones, oedd dechrau’r côr ac mae disgwyl i ymarferion ddechrau’r wythnos nesaf.
Does dim enw ar y côr eto ond mae rhai wedi awgrymu enwau fel ‘Seiniau’r Senedd’, ‘Pwyll-gôr’, ‘Côr Deddf a chân’, ‘Bae Côr-dydd’, ‘Cythraul y Cynulliad’ ac ‘A-gôr y Bleidlais’.
Eisteddfod wahanol
Bydd yr Eisteddfod Genedlaethol yn mynd i Fae Caerdydd y flwyddyn nesaf a bydd y digwyddiad n cael ei gynnal heb faes traddodiadol am y tro cyntaf.
Bydd dim ffens yn amgylchynu maes yr Eisteddfod na thâl mynediad i’r rhai sydd am fynd i mewn.
Mae disgwyl i gyngherddau, cystadlaethau a seremonïau gael eu cynnal mewn lleoliadau gerllaw fel Canolfan y Mileniwm a’r Senedd – lle bydd tâl mynediad.