Bydd cryn ddathlu yng ngŵyl gerddoriaeth Gymraeg Tregaroc eleni.

Cafodd yr ŵyl ei sefydlu ddeng mlynedd yn ôl, yn 2014, o dan adain pump o fenywod ardal Tregaron.

Bydd yr ŵyl yn symud o amgylch Tregaron eleni, gyda’r daith yn cychwyn yn y Sgwâr, gan symud yn ei blaen i’r Clwb Bowlio, cyn gorffen yn y Babell Fawr ger y Clwb Rygbi.

Mae modd gwrando ar berfformiadau’r dydd yn rhad ac am ddim, ac eleni bydd artistiaid megis Morgan Elwy, Doreen Lewis a’r Band a Baldande yn diddanu’r gynulleidfa.

Yn ychwanegol i’r diwrnod, bydd y gân ‘Ti’, enillydd Cân i Gymru 2024, yn cael ei pherfformio gan Sara Davies, athrawes Gerddoriaeth, Drama a Lles yn ysgol Henry Richard, Tregaron.

Bydd Mynediad am Ddim hefyd yn perfformio yn y Clwb Bowlio fel rhan o’u taith i ddathlu hanner can mlynedd.

Bwncath, Ynys, Dros Dro a #band6 fydd yn perfformio yn y Babell Fawr i gloi’r diwrnod cofiadwy, gyda’r trefnwyr yn dweud eu bod nhw am gynnig rhywbeth at ddant pawb.

Bydd angen tocyn ar gyfer mynediad i’r Babell Fawr, ac yn ôl y trefnwyr fe werthodd y tocynnau eleni o fewn hanner awr.

‘Rhoi Tregaron ar y map’

Dywed y trefnwyr eu bod nhw wedi meddwl wrth sefydlu Tregaroc eu bod nhw am “wneud rhywbeth gwahanol yn y dref er mwyn rhoi Tregaron ar y map”.

“Sefydlodd Tregaroc mewn cyfnod lle’r oedd y dref yn colli sawl gwasanaeth – banciau’n cau a’r swyddfa bost ac wedi colli’r chweched yn yr ysgol ac oedden ni’n teimlo bod ni awydd rhoi hwb i’r dre i’w adfywio,” medden nhw.

“Hefyd, roedd bwriad i wneud rhywbeth i’r bobol leol, er mwyn eu gwneud yn rhan o’r gymuned a rhoi hwb i’r economi leol.

“Mae’r ŵyl yn hwb i’r iaith Gymraeg ac yn rhywbeth i’r bobol leol werthfawrogi’r iaith Gymraeg a’r sîn roc Gymraeg.”

Llwyfan i fandiau ifanc

Ar ddechrau’r degawd, roedd yr ŵyl yn manteisio cryn dipyn ar fandiau lleol, gan gynnwys disgyblion Ysgol Henry Richard, gan roi llwyfan i bobol leol berfformio.

“Mae Mari Mathias yn enghraifft o rywun gychwynnodd gyda ni a nawr mae hi on to better things,” medd y trefnwyr.

“Felly mae gwyliau fel Tregaroc yn rhoi llwyfan a hwb ymlaen.

“Mae’r ŵyl wedi cyfoethogi’r dref o ran yr iaith Gymraeg, oherwydd mae yna lawer wedi symud i mewn yma ac efallai fyse ddim yn ystyried gwrando ar gerddoriaeth Gymraeg, na gwrando ar yr iaith hyd yn oed.

“Mae’n eithaf unigryw, oherwydd pan gychwynnon ni roedden ni’n keen iawn i sicrhau bod pob lleoliad a busnes yn y dref yn manteisio’n llawn.

“Mae pobol ar draws Cymru’n dod i’r ŵyl, felly mae’n gyfle i hybu’r ardal, hybu’r sir a dangos beth sydd i’w gynnig yn lleol.

“Hefyd, mae’n aduniad blynyddol i gwrdd â hen ffrindiau ac yn rhywbeth i’r bobol leol ei gael ar eu stepen drws.”

‘Rhannu cerddoriaeth gyda chynulleidfaoedd cwbl newydd’

Band o Sir Gâr yw Dros Dro, ac maen nhw’n prysur wneud argraff fawr ar y sîn roc Gymraeg.

Maen nhw wedi perfformio mewn amryw o wyliau cenedlaethol, gan gynnwys Gŵyl Triban, Gŵyl Canol Dref Caerfyrddin a’r Ddawns Ryng-gol yn Aberystwyth.

Eleni, byddan nhw’n perfformio yn Nhregaron.

Wrth siarad â golwg360, dywed Iestyn Jones, drymiwr y band, eu bod “yn edrych ymlaen yn fawr iawn i chwarae yn Nhregaroc, am y tro cyntaf eleni”.

“Mae cael y cyfle i chwarae mewn gwyliau cerddoriaeth Cymraeg fel Tregaroc, yn enwedig fel band gweddol newydd yn gwneud hi’n bosibl i ni gael ein henw ar led, a rhannu’n cerddoriaeth gyda chynulleidfaoedd cwbl newydd gan amlaf,” meddai.

“Ac mae bod ar yr un rhestr â rhai o fandiau mwyaf Cymru yn help hefyd!”

Prosiect newydd cyffrous

Fel rhan o’r dathliadau, cafodd noson gomedi a cherddoriaeth ei chynnal fis Tachwedd y llynedd, sef ‘Hi Hi Hi’ gyda Sara Davies, Tess Pryce ac Elliw Dafydd.

Y gobaith yw cynnal digwyddiad tebyg i Tregaroc ar raddfa lai yn yr hydref, gyda’r trefnwyr yn dweud bod prosiect cyffrous ar y cyd ag Ysgol Henry Richard ar y gweill, ac y bydd y manylion yn cael eu datgelu yn y man.

Bydd Tregaroc yn cael ei chynnal ar Fai 18 eleni.