Mae prosiect cerddorol newydd o’r enw ‘Bannau’ yn paratoi am gynnal gigiau eto yng Nghymru.

Flwyddyn ar ôl i gig-fannau orfod cau yng Nghymru yn sgil pandemig y coronafeirws, mae grŵp o bedwar o ‘ymgynghorwyr’ cerddorol rhwng 16-25 oed am roi cefnogaeth i bobol ifanc sydd am weithio yn y diwydiant ar ôl y cyfnod clo.

Bydd y grŵp yn cynnal cynhadledd diwydiant cerddoriaeth ddigidol Gymreig am ddim, sef ‘Summit’, gyda thocynnau am ddim ar gael ar y wefan www.beacons.cymru.

Bydd yn cael ei gynnal ar-lein o ddydd Gwener (Ebrill 9) tan ddydd Sul (Ebrill 11) gan arddangos ystod eang o arbenigwyr sy’n gweithio mewn meysydd yn y diwydiant cerddoriaeth, gan gynnwys cyfansoddi, cyfryngau cymdeithasol a PR.

“Mae’r prosiect wedi bod yn datblygu ers rhyw flwyddyn bellach, tra bod cynhadledd Summit wedi bod ar y gweill er tua mis Tachwedd,” eglura Llew Glyn, o’r Felinheli, un o’r trefnwyr wrth golwg360.

“Y bwriad ydi creu cysylliadau i bobol a chryfhau’r genhedlaeth nesaf o bobol sydd eisiau gweithio yn y diwydiant cerddorol.

“Mae o’n cael ei anelu nid yn unig at gerddorion ond pobol sydd yn awyddus i weithio y tu ôl i’r llenni yn y diwydiant hefyd.

“Roedden ni’n gweld yr angen am baratoi at pryd fydd pethau cerddorol yn dechrau dod yn ôl, pryd bynnag fydd hynny, a rhoi cyngor a gwybodaeth i bobol sydd o bosib eisiau gweithio yn y diwydiant ond wedi colli cyfleoedd oherwydd y pandemig.”

“Gwledd”

Aeth Llew Glyn ymlaen i ddisgrifio’r gynhadledd Summit o Ebrill 9 fel “gwledd”.

“Dw i’n meddwl mai gwledd ydi’r gair orau i’w ddisgrifio fo,” meddai.

“O’r dydd Gwener tan y dydd Sul mae yna rywbeth yn digwydd ar y wefan rhwng 10 ac wyth o’r gloch bob diwrnod.

“Bydd yna fideos byr fydd yn gyflwyniad i’w diwydiant a wedyn bydd gen ti sgyriau am wahanol feysydd fydd yn para awr efo pobol sy’n arbenigwyr o fewn ei meysydd gwahanol.

“Mae yno rywbeth i bawb ar gael.”