Fe all gwaith Banksy sydd wedi cael ei beintio ar ochr garej yn Port Talbot, gael ei symud gan y cyngor – er mwyn “ei warchod a’i gadw fel esiampl cyffrous o gelf fodern”.
Pan ddaeth y cynnig y tro cyntaf, fe gafodd ei wrthod gan berchennog y garej, Ian Lewis – ond mae’r cynnig i warchod y gwaith yn dal i sefyll ar ôl “camddealltwriaeth” o’i ran yntau, meddai.
Fe ymddangosodd y gwaith ar garej tŷ’r gweithiwr dur Ian Lewis, sy’n 55 oed, yn Tai Bach ym mis Rhagfyr y llynedd.
“Mae’r cyngor yn dymuno ei symud, ei storio a’i adleoli,” meddai datganiad gan Gyngor Port Talbort.
“Rydym ar ddeall fod Ian Lewis yn dymuno mynd i lawr llwybr arall, ond mae’r drws yn dal yn agored os yw’n penderfynu newid ei feddwl.”
Mae Ian Lewis bellach yn dweud mai “camddealltwriaeth” oedd gwrthod y cynnig, a’i bod yn well ganddo “beidio â dweud” beth yw ei ymateb i gynnig y cyngor. Fe gyfaddefodd fod yr holl sylw i’w garej wedi bod yn hwyl ar y dechrau, ond bod pethau wedi tyfu i fod yn “straen” wedyn.