Mae paentiad gan Syr Kyffin Williams, artist mwyaf dylanwadol Cymru o’r 20fed ganrif, yn cael ei werthu mewn ocsiwn – a gallai gostio hyd at £30,000.
Mae’r paentiad o Gapel Soar yng Ngwynedd yn cael ei werthu ynghyd â llythyr gan yr artist yn dweud ei fod wedi bwyta gormod o ddanteithion ac na fyddai’n cael ei ddewis i chwarae rygbi i Gymru!
Tirweddau eiconig
Roedd Syr Kyffin Williams, a aned ym Môn ac a fu farw yn 2006, yn adnabyddus am ei dirweddau eiconig.
Wnaeth Cymru erioed adael ymwybyddiaeth na dychymyg Syr Kyffin Williams tra’r oedd yn byw yn Llundain, a byddai’n dychwelyd adref ar wyliau, yn mynd â brasluniau yn ôl i Lundain ac yn eu cwblhau ar gynfasau.
Ei dechneg arbennig oedd defnyddio paent olew trwchus gyda chyllell paled.
Roedd Williams yn bennaf yn ddarlunydd tirwedd ond roedd hefyd yn dipyn o gartwnydd.
Arddangoswyd paentiad Capel Soar – y capel mwyaf anghysbell yng Nghymru, mae’n debyg – yn Amgueddfa Genedlaethol Cymru yn 1987 mewn arddangosfa’n edrych yn ôl ar waith yr artist.
Bydd yn cael ei werthu ar 13 Mai yn Arwerthiannau Celf Parker Fine yn Farnham, Surrey.
Y Llythyr
Ysgrifennwyd y llythyr, wedi’i ddyddio 10 Rhagfyr 1980, at y teulu a brynodd y paentiad ac sydd bellach yn ei werthu.
Dywedodd Henny Smith, cyfarwyddwr Parker Fine Art Auctions: “Nid dim ond enghraifft wych yw hon o waith Kyffin Williams … ond mae’r lot hefyd yn cynnwys llythyr swynol â llun ganddo.
“Mae’r darluniau’n ei ddangos ‘cyn’ – fel chwaraewr rygbi sy’n sefyll yn barod gyda’r bêl o dan ei fraich, ac ‘ar ôl’ – fel chwaraewr anniben a thew sydd wedi gollwng y bêl.”
Ysgrifennodd Syr Kyffin Williams: “Annwyl Ann,
“Roedd eich anrheg o’r danteithion melysaf wedi ei gwerthfawrogi’n fawr gan y derbynnydd.
“Ond eto mae ganddynt eu hanfanteision oherwydd ar ôl eu bwyta byddaf yn sicr yn anaddas i gael fy newis i dîm Cymru i chwarae Lloegr yn y Stadiwm Genedlaethol ym mis Ionawr.
“Bydd fy ffigwr naturiol mewn rhywfaint o anhrefn ac rwy’n ofni y byddaf yn cael fy ngollwng (o’r garfan).
“Ond yn wir i chi, bydd e werth o.
“Diolch yn fawr. Dymuniadau gorau i bawb.
“Kyffin.”