Bydd Theatr Ieuenctid Cymru’n arddangos pedair ffilm fer newydd wrth i bobl ifanc 16-17 oed gael pleidleisio am y tro cyntaf.

Ar ddiwrnod etholiad y Senedd (Mai 6), bydd aelodau o Theatr Ieuenctid Cenedlaethol Cymru yn helpu i lansio cyfres o ffilmiau o fonologau byr am ddemocratiaeth ieuenctid.

Mae holl ddarnau #Maniffest1617, sy’n cynnwys cyfres o fonologau gan awduron blaenllaw Cymru, yn adlewyrchu meddyliau a theimladau’r aelodau ifanc am gynrychiolaeth ieuenctid, a sut mae eu lleisiau’n cael eu clywed.

Cafodd y pedair monolog eu ffilmio yng nghymunedau’r aelodau ifanc, ac roedd y broses greadigol yn gydweithrediad rhwng yr aelodau a thîm o ysgrifenwyr, cyfarwyddwyr, a gwneuthurwyr ffilm.

Y monologau

Bydd pedair ffilm gyntaf y gyfres yn cael eu dangos am y tro cyntaf ar AM am 7 nos fory, gyda rhai o’r darnau’n cynnwys cymeriadau ffuglennol ac eraill yn cael eu hadrodd o safbwynt person cyntaf.

Ymhlith y pedair ffilm bydd Siân of Arc gan Mari Izzard, a gafodd ei hysgrifennu ar gyfer Lauren Connelly o Gaerdydd, a’i pherfformio’n Gymraeg ac yn Saesneg.

Mae’r monolog yn dilyn cymeriad sy’n lansio ei hymgyrch i fod yn Brif Weinidog Cymru yn ddeunaw oed.

Hefyd, ceir dwy fonolog Saesneg gan Matthew Bulgo a Catherine Dyson, yn ogystal â drama gan yr awdur adnabyddus, a cholofnydd Golwg, Manon Steffan Ros.

Mae ei darn Fama yn adlewyrchiad doniol a theimladwy o bŵer cymuned, a bydd yn cael ei berfformio gan Dyddgu o Fethesda.

Dangos sut mae pobol ifanc yn gweld Cymru

Y prosiect hwn yw rhan gyntaf tymor Maniffest 2021 Theatr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru, a bydd y rhaglen yma o waith yn cael ei dangos trwy gydol y flwyddyn.

Bwriad y tymor yw dangos sut mae pobol ifanc yn gweld Cymru yn yr unfed-ganrif-ar-ugain.

Mae uchafbwyntiau eraill tymor Maniffest yn cynnwys cynhyrchiad theatrig digidol wedi’i ysgrifennu gan Hanna Jarman a’i gyd-gynhyrchu gan Theatr Clwyd, a chydweithrediad rhwng Theatr Ieuenctid Cymru a theatr yn Malawi.

Yn ogystal, mae’r rhaglen yn cynnwys cydweithrediad dwyieithog yng Ngaeleg yr Alban a’r Gymraeg rhwng Theatrau Ieuenctid Cymru a’r Alban.

“Er bod rhai sialensiau’n codi wrth weithio yn ystod y pandemig, rydyn ni’n credu ei bod hi’n eithriadol o bwysig bod lleisiau ifanc yn cael eu clywed yn ystod yr etholiad hwn,” Gillian Mitchiell, Prif Weithredwr Celfyddydau Ieuenctid Cenedlaethol Cymru.

“Dim ond rhan o’r gwaith helaeth o helpu perfformwyr ifanc talentog ledled Cymru yw’r prosiect cyffrous hwn, gyda chomisiynau newydd yn y Gymraeg a’r Saesneg, rydyn ni’n datblygu ei lleisiau ac yn parhau â’u hyfforddiant artistig er gwaethaf yr aflonyddwch parhaus.”

Gallwch wylio’r pedair ffilm ar ap neu wefan AM fory (Mai 6) am 7pm.