Mae “bwlch yn y farchnad” gomedi stand-yp Gymraeg a “chyfle i’w thyfu” wedi ysgogi dau ddigrifwr i fynd ati i ddyfeisio sioe newydd sbon.
Fe fydd Steffan Alun a Dan Thomas yn perfformio’u sioe Tipyn o Laff – sy’n ddi-sgript ac yn ddi-gynllun – yn Tŷ Tawe nos Sadwrn (Gorffennaf 14).
Mae’r sioe yn gwahodd y gynulleidfa i gyfathrebu â’r digrifwyr drwyddi draw – yn wahanol i’r ‘heclo’ sy’n cael ei ystyried yn dramgwydd mewn nosweithiau stand-yp cyffredin.
‘Profiad unigryw’
“Mae gyda ni lot o drics wedi’u paratoi!” meddai Steffan Alun wrth golwg360.
“Fi a Dan yn gwneud stand-yp ac yn aml, mae rhaid i ti ddatblygu’r sgil o ymateb i rywbeth yn y ’stafell. Fi wedi sylwi’n aml iawn mai dyna hoff beth y gynulleidfa am y sioe.
“D’yn nhw ddim yn cofio’r jôcs o’t ti’n mo’yn eu dweud, ond maen nhw’n cofio pan wnest ti ddelio gyda heclar neu ymateb i rywbeth wnaeth godi… achos bo nhw’n gwybod fod hwnna’n brofiad unigryw.
“Be’ ni eisie yw noson llawn pethau unigryw fel’na. Dyma sioe lle mae croeso i’r gynulleidfa heclo os y’n nhw am wneud, wedyn byddan nhw’n teimlo’n rhan o’r sioe. Os y’n nhw wedi diflasu, rhowch wybod i ni, a wnawn ni newid y pwnc!”
Jôcs, yfed a joio
Yn ôl Steffan Alun, bwriad y noson yw symud comedi stand-yp Cymraeg i ffwrdd o’r ddelwedd “barchus” draddodiadol, i awyrgylch mwy anffurfiol.
“Ni eisie i hon deimlo mwy fel joio ac yfed gyda chriw o ffrindiau yn y dafarn. Dyna’r math o gig y’n ni’n mo’yn.
“Mae hon fel un o’r sioeau clybiau comedi Saesneg traddodiadol, ond gyda fformat hynod Gymreig.
“Mae clybiau fel y Glee yng Nghaerdydd yn gwneud eu harian drwy ddenu pobol sydd am gael noson ma’s, sy’n mo’yn joio, sy’n mo’yn laff, nid o reidrwydd pobol sy’n mo’yn gwylio’n barchus wrth i bobol ddweud eu jôcs.
“Dyna’r math o gyffro y’n ni’n mo’yn ei gynnwys mewn noson fel hon.”
Baddiel and Skinner Unplanned Cymraeg?
Er y tebygrwydd amlwg â sioe Saesneg Frank Skinner a David Baddiel, Baddiel and Skinner Unplanned, dywed Steffan Alun mai creu sioe a fformat unigryw yn y Gymraeg yw’r nod.
“Mae’r fformat mor syml, y ddau ohonon ni ar y llwyfan, felly mae’n anochel fod y gymhariaeth honno â Baddiel and Skinner yn mynd i gael ei gwneud ond bydd y sioe yn gwbwl wahanol.
“Beth y’n ni eisie gwneud yw gweld os allwn ni fynd â chomedi Cymraeg i’r lefel nesa’.
“Mae stand-yp wedi bod yn gweithio’n wych yn Gymraeg ers dros hanner degawd bellach, felly licen ni weld y ddau beth yn bodoli ochr yn ochr – bo ni’n dal yn cael nosweithiau stand-yp arferol, ond bo ni hefyd yn gweld lle i gigs mwy arbrofol fel hyn.
“Mae’r fformat yn gynfas wag. Fe fydd e’n debyg, ond bydd y sioe yn gwbwl wahanol. Mae hon yn noson gomedi i bobol sy’n mo’yn joio!”